Gwybodaeth ffordd o fyw

Ysmygu

Cefndir

Smygu yw’r achos unigol mwyaf o salwch ataliadwy yng Nghymru o hyd, ac mae’n achos sylweddol o annhegwch iechyd. Er gwaethaf cryn gynnydd mewn lleihau cyffredinolrwydd smygu, mae data o Arolwg Iechyd Cymru 2015 yn dangos bod oddeutu 490,000 o oedolion sy’n smygu yng Nghymru o hyd. Mae’r arolwg hefyd yn dangos bod dros 2 o bob 3 smygwr eisiau stopio, ac mae oddeutu 40% o smygwyr yn rhoi cynnig ar geisio stopio smygu bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed blynyddol uchelgeisiol i drin 5% o’r boblogaeth sy’n smygu trwy wasanaethau stopio smygu’r GIG, a lleihau cyfraddau smygu ymhlith oedolion i 16% erbyn 2020. Er mwyn helpu i gyflawni’r targedau hyn, mae Is-grŵp Rhoi’r Gorau i Ysmygu Bwrdd Strategol ar Reoli Tybaco Llywodraeth Cymru yn arwain ar ddatblygu system integredig ar gyfer holl wasanaethau stopio smygu’r GIG ledled Cymru. Y cam cyntaf tuag at gyflawni hyn oedd lansio Helpa Fi i Stopio ym mis Ebrill 2017.

 

Dyma beth yw Helpa Fi i Stopio:

  • Brand unigol ar gyfer gwasanaethau stopio smygu’r GIG yng Nghymru
  • Gwefan ddwyieithog gyda gwybodaeth am holl wasanaethau stopio smygu’r GIG yng Nghymru
  • Tîm canolfan gyswllt sy’n rhoi mynediad i smygwyr at holl wasanaethau stopio smygu’r GIG yng Nghymru, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol, Stopio Smygu Cymru a gwasanaethau mewn ysbytai
  • Ei gwneud hi’n haws i smygwyr ddewis cymorth stopio smygu’r GIG sydd orau iddyn nhw yn eu hardal leol
  • Y dewis gorau y gall smygwr ei wneud i stopio smygu.

 

Ewch i wefan Helpa Fi i Stopio i gael mwy o wybodaeth.

Sut i gyfeirio at Helpa Fi i Stopio

Gall smygwyr gyrchu cymorth mewn dwy ffordd.

 

Llwybr 1 – Cyfeiriadau proffesiynol

Gall smygwyr gael eu cyfeirio trwy sefydliad arall, fel gweithwyr iechyd proffesiynol (e.e. meddyg teulu, deintydd neu fydwraig), cynllun awdurdod lleol, gweithle, neu drwy sefydliad y trydydd sector.

Gellir creu cyfrifon personoledig ar gyfer eich sefydliad trwy’r system e-gyfeirio, o’r enw Quit Manager neu gallwch ddefnyddio ffurflen gyfeirio Helpa Fi i Stopio ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar-lein. Bydd y cyfeiriadau hyn yn cael eu prosesu o fewn 48 awr a bydd tîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio yn ffonio’r cleient yn uniongyrchol o rif preifat/rhif sy’n cael ei ddal yn ôl.

I gael mwy o wybodaeth am sefydlu llwybr cyfeirio, anfonwch neges e-bost at dîm Helpa Fi i Stopio: helpmequit@wales.nhs.uk

Llwybr 2 - Hunangyfeirio

Gall smygwyr gyfeirio eu hunain i gael cymorth stopio smygu yn uniongyrchol trwy nifer o lwybrau:

  • Ffonio (rhadffôn): 0800 085 2219
  • Anfon neges destun (cost un neges cyfradd safonol): HMQ at 80818

Ar-lein, trwy lenwi ffurflen fer 'Gofyn i rywun eich ffonio yn ol'.

 

Hyfforddiant

Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Hyfforddiant Rhoi’r Gorau i Smygu (NCSCT) yn cynnig amrywiaeth o adnoddau e-ddysgu a mynediad at hyfforddiant ar-lein rhad ac am ddim yng Nghymru ar roi’r gorau i smygu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gallu darparu pecyn hyfforddi pwrpasol mewn Ymyriadau Byr Smygu. Yn ystod y sesiwn, bydd y cyfranogwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymarfer ar sail sgiliau ar gyflwyno ymyriadau byr smygu, a sut i gyfeirio smygwyr at Helpa Fi i Stopio.

Byddem yn annog y rheiny sy’n chwilio am hyfforddiant mewn ymyriad byr i gyrchu e-fodiwl MECC ar-lein neu fynychu hyfforddiant MECC i ddechrau. Cewch hyd i’ch cyswllt lleol yma.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod mwy am Ymyriadau Byr Smygu pwrpasol, anfonwch neges e-bost at dîm Helpa Fi i Stopio – helpmequit@wales.nhs.uk.

 

Manylion cyswllt

 E-bost: helpmequit@wales.nhs.uk  

Gwefan: www.helpmequit.wales | www.helpafiistopio.cymru

Rhif ffôn: 0800 085 2219

Dilynwch ni ar Twitter: @Helpafiistopio

Ymunwch â ni ar Facebook: @Helpafiistopio

Lawrlwythiadau

smoking infographic without background and with copyright.png

NHS_HMQ_poster_Final 08062017 v2.pdf

NHS_HMQ_Digital poster V1.0.mov

HMQ_EMAIL SIG_V2.jpg

HMQ Logo_number.png