Gwybodaeth ffordd o fyw

Alcohol

ALCOHOL

Yr argymhellion

Mae canllawiau Prif Swyddog Meddygol  y DU ar yfed risg isel yn argymell na ddylai oedolion yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd. Cynghorir pobl sy'n yfed cymaint â 14 uned yr wythnos i ledaenu eu hyfed dros dri diwrnod neu fwy yn yr wythnos. Cynghorir merched sy'n feichiog, neu sy'n meddwl y gallent fod yn feichiog, ei bod yn fwy diogel peidio ag yfed o gwbl.

Sefyllfa bresennol

Nododd Arolwg Iechyd Cymru yn 2015 bod tua 40 y cant o oedolion yn yfed mwy na'r canllawiau dyddiol a argymhellir blaenorol, gan gynnwys tua chwarter (24 y cant) yn nodi eu bod yn goryfed mewn pyliau. Fodd bynnag, nid yw pobl yn yfed y fath lefelau'n rheolaidd o reidrwydd. Nododd tua 15% o oedolion nad ydynt yn yfed o gwbl.

Mae ffigurau o Arolwg Iechyd Cymru yn awgrymu bod y gyfran o oedolion sy'n yfed mwy na'r hyn a argymhellir yn y canllawiau ac yn goryfed mewn pyliau wedi gostwng ers 2008, a bod mwy o ostyngiad ymhlith dynion ac yn y grwpiau oedran iau.

Risgiau

Nododd adroddiad diweddar gan Public Health England nifer o ffyrdd y mae alcohol yn niweidio iechyd y person sy'n yfed a'r rheini sydd o'i gwmpas. Mae risgiau uniongyrchol yfed yn drwm yn cynnwys gwenwyniad alcohol, anafiadau, problemau emosiynol a chydberthnasau. Yn y tymor hir, mae yfed unrhyw faint o alcohol yn rheolaidd y cynyddu'r risg o amrywiaeth o salwch gan gynnwys canser y fron a chanser y coluddyn. I'r rhan fwyaf o bobl nid oes unrhyw fuddiannau iechyd yn gysylltiedig ag yfed.                          

Buddiannau defnydd isel o alcohol neu ddim defnydd o gwbl

Cyngor Iechyd

  • Teimlo'n well yn y bore
  • Llai o achosion o ben mawr
  • Mwy o egni
  • Croen gwell
  • Mwy ffit, cyflymach
  • Rheoli pwysau
  • Risg is o bwysedd gwaed uchel
  • Risg is o ddatblygu canserau penodol
  • Cof gwell
  • Risg is o niwed i'r ymennydd
  • Teimlo'n llai pryderus, teimlo'n hapusach

  Buddiannau Seicolegol, Cymdeithasol ac Ariannol

  • Risg is o ddamwain neu anaf
  • Llai o siawns o ymladd
  • Datblygu cydberthnasau gwell
  • Mwy o hunanhyder
  • Mwy o amser
  • Mwy o arian
  • Pobl yn y gwaith yn eich gweld yn wahanol

Thinking about your Drinking.pdf