Gwybodaeth ffordd o fyw

Imiwneiddio

MECC immunisation (2).jpg

Pam yr ydym yn imiwneiddio?

Mae imiwneiddio yn arbed bywydau

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod 3 miliwn o fywydau’n cael eu harbed bob blwyddyn ledled y byd drwy imiwneiddio, er na fyddwn byth yn gwybod pa unigolion sy’n dal yn fyw oherwydd iddynt gael eu himiwneiddio pan oeddent yn blant.

 

Fodd bynnag, mae llawer iawn o waith i’w wneud o hyd yn fyd-eang – mae 400,000 o blant yn dal i farw bob blwyddyn oherwydd y frech goch yn unig, er bod brechlyn effeithiol a diogel ar gael ers dros 30 mlynedd.

Mae’n bwysig bod pob plentyn a babi’n cael eu himiwneiddio

Anaml y gwelir afiechydon cyffredin megis difftheria a thetanws yn awr, oherwydd prosesau imiwneiddio. Yn 2002 cyhoeddwyd bod polio wedi’i ddileu’n gyfan gwbl o Ewrop drwy imiwneiddio, ond mae afiechydon eraill megis y frech goch a llid yr ymennydd yn dal yn fygythiad yn y DU heddiw.

Mae’r risgiau sy’n gysylltiedig ag imiwneiddio’n fach iawn o’u cymharu â’r risgiau o gael yr afiechydon eu hunain

Bydd rhai rhieni yn penderfynu peidio ag imiwneiddio eu plant oherwydd yr honiadau y maent yn eu clywed ac yn eu darllen yn y wasg am y risgiau sy’n perthyn i rai brechlynnau. Yn yr 1970au, arweiniodd ofnau ynghylch brechlyn yn y DU at gwymp yn nifer y plant a gafodd eu himiwneiddio rhag y pâs. O ganlyniad, cafwyd dros 100,000 o achosion o’r pâs yn ystod y blynyddoedd wedi hynny ac amcangyfrifwyd bod 100 wedi marw, ac achosodd yr afiechyd niwed parhaol i ymennydd llawer o bobl.

 

Yn ôl adroddiadau diweddarach astudiaeth a sefydlwyd i ymchwilio i’r risg, mae’n wir bod rhai plant wedi adweithio mewn modd acíwt i’r brechlyn ond roeddent yn gwella’n llawn fel rheol ac nid oedd digon o dystiolaeth ar gael i ddweud bod y brechiad DTP yn cynyddu’r risg gyffredinol o niwed hirdymor.

 

Heddiw, er bod llawer iawn o dystiolaeth ymchwil ar gael i danseilio’n llwyr y ddamcaniaeth bod cysylltiad rhwng y brechiad MMR ac awtistiaeth, nid yw’r neges wedi cyrraedd lleiafrif o hyd.

Oni bai bod arwyddion clinigol yn dangos y gallai brechu plentyn wneud niwed iddo, mae’r risg o gael afiechyd oherwydd bod plentyn heb ei frechu’n uwch o lawer na’r risg sy’n gysylltiedig ag imiwneiddio

Fel yn achos popeth mewn bywyd, mae penderfynu imiwneiddio plentyn ai peidio’n fater o bwyso a mesur risgiau, ond mae imiwneiddio plant fel mater o drefn yn ystod eu plentyndod yn arbed bywydau. 

PHW028 Vaccination Infographics FINAL Welsh.pdf