Gwybodaeth ffordd o fyw
Bwyta’n iach
Yr argymhellion
Mae argymhellion Llywodraethau'r DU ar gyfer deiet iach yn seiliedig ar dystiolaeth gan y Pwyllgor ar Agweddau Meddygol ar Bolisi Bwyd (COMA) a'r Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) a olynydd COMA yn 2000.
Defnyddiwyd yr argymhellion i lunio adnodd ymarferol, Canllaw Eatwell, sy'n dangos y cyfrannau o wahanol fathau o fwydydd sydd eu hangen er mwyn sicrhau deiet cytbwys ac iach dros gyfnod o ddiwrnod neu hyd yn oed wythnos, nid o reidrwydd bob pryd bwyd.
Mae'r argymhellion yn nodi y dylai oedolion wneud y canlynol:
- Bwyta amrywiaeth eang o fwydydd er mwyn sicrhau eich bod yn cael deiet cytbwys a bod eich corff yn cael yr holl faeth sydd ei angen arno.
- Bwyta'r nifer gywir o galorïau sy'n cyd-fynd â pha mor egnïol ydych, er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng y calorïau rydych yn eu bwyta a'r egni rydych yn ei ddefnyddio. Os byddwch yn bwyta neu'n yfed gormod, byddwch yn magu pwysau. Os na fyddwch yn bwyta neu'n yfed digon, byddwch yn colli pwysau.
Mae'r canllawiau wedi'u hanelu at y boblogaeth gyffredinol o ddwy flwydd oed ymlaen. Rhwng dwy a phum mlwydd oed, dylai plant ddechrau symud tuag at y deiet a nodir yn y Canllaw Eatwell.
Canllaw Eatwell yw'r prif adnodd polisi maeth ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ac unigolion eraill sy'n gweithio i wella iechyd deietegol. Fe'i hategir gan wyth awgrym ar gyfer bwyta'n dda.
- Seiliwch eich prydau ar fwydydd â starts
- Bwytewch lawer o ffrwythau a llysiau
- Bwyta mwy o bysgod – gan gynnwys dogn o bysgod olewog
- Bwytewch llai o fraster dirlawn a siwgr
- Bwytewch lai o halen - dim mwy na 6g y diwrnod
- Cadwch yn heini a chynnal pwysau iach
- Peidiwch ag osgoi bwyta brecwast
- Peidiwch â mynd yn sychedig
Er mwyn helpu staff i ddeall eu rôl wrth helpu pobl i newid eu hymddygiad o ran bwyd, mae dull GBCG yng Nghymru yn canolbwyntio ar dair prif neges syml:
- bwytewch bum dogn o ffrwythau a llysiaua bob dydd
- dewiswch opsiynau iachach yn lle bwydydd a diodydd sydd â llawer o fraster a siwgr
- lleihewch faint eich dognau
Y sefyllfa bresennol
Mae data o Arolwg Iechyd Cymru yn 2015 yn dangos bod 59% o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew (24% yn ordew), a dim ond tua thraean (32%) o oedolion nododd eu bod wedi bwyta pum dogn o ffrwythau a llysiau neu fwy y diwrnod blaenorol.
Prif fanteision
Mae bwyta deiet iach a chytbwys yn helpu i gynnal pwysau iach ac yn sicrhau eich bod yn cael yr holl faetholion eraill sydd eu hangen i leihau'r risg o ddioddef llawer o gyflyrau cronig, fel clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser.
Amcangyfrifir bod deiet gwael yn cyfrif am 10.8% o'r baich clefydau (Newton et al., 2015).
Mae gwefan GIG 111 Cymru yn rhoi gwybodaeth gynhwysfawr i'r cyhoedd am ddeiet iach, dewisiadau bwyd a chynnal pwysau iach.
Cyfeiriadau defnyddiol i weithwyr iechyd proffesiynol
Mae rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, a arweinir gan Ddeietegwyr Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, yn sicrhau bod cymunedau yn cael gwybodaeth am faeth drwy ddefnyddio negeseuon cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth a 'dull hyfforddi'r hyfforddwr' i ledaenu'r negeseuon hynny mor eang â phosibl.
Caiff Taflenni Ffeithiau Bwyd BDA eu hysgrifennu gan ddeietegwyr er mwyn eich helpu i ddysgu am y ffyrdd gorau o fwyta ac yfed i gadw eich corff yn ffit ac yn iach. Gallwch lawrlwytho ac argraffu'r adnoddau hyn. Mae'r Taflenni Ffeithiau er gwybodaeth yn unig: nid ydynt yn disodli diagnosis meddygol cywir neu gyngor deietegol a roddir gan ddeietegydd.