Gwybodaeth ffordd o fyw
Alcohol
ALCOHOL
Yr argymhellion
Mae canllawiau Prif Swyddog Meddygol y DU ar yfed risg isel yn argymell na ddylai oedolion yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos yn rheolaidd. Cynghorir pobl sy'n yfed cymaint â 14 uned yr wythnos i ledaenu eu hyfed dros dri diwrnod neu fwy yn yr wythnos. Cynghorir merched sy'n feichiog, neu sy'n meddwl y gallent fod yn feichiog, ei bod yn fwy diogel peidio ag yfed o gwbl.
Sefyllfa bresennol
Nododd Arolwg Iechyd Cymru yn 2015 bod tua 40 y cant o oedolion yn yfed mwy na'r canllawiau dyddiol a argymhellir blaenorol, gan gynnwys tua chwarter (24 y cant) yn nodi eu bod yn goryfed mewn pyliau. Fodd bynnag, nid yw pobl yn yfed y fath lefelau'n rheolaidd o reidrwydd. Nododd tua 15% o oedolion nad ydynt yn yfed o gwbl.
Mae ffigurau o Arolwg Iechyd Cymru yn awgrymu bod y gyfran o oedolion sy'n yfed mwy na'r hyn a argymhellir yn y canllawiau ac yn goryfed mewn pyliau wedi gostwng ers 2008, a bod mwy o ostyngiad ymhlith dynion ac yn y grwpiau oedran iau.
Risgiau
Nododd adroddiad diweddar gan Public Health England nifer o ffyrdd y mae alcohol yn niweidio iechyd y person sy'n yfed a'r rheini sydd o'i gwmpas. Mae risgiau uniongyrchol yfed yn drwm yn cynnwys gwenwyniad alcohol, anafiadau, problemau emosiynol a chydberthnasau. Yn y tymor hir, mae yfed unrhyw faint o alcohol yn rheolaidd y cynyddu'r risg o amrywiaeth o salwch gan gynnwys canser y fron a chanser y coluddyn. I'r rhan fwyaf o bobl nid oes unrhyw fuddiannau iechyd yn gysylltiedig ag yfed.
Buddiannau defnydd isel o alcohol neu ddim defnydd o gwbl
Cyngor Iechyd
- Teimlo'n well yn y bore
- Llai o achosion o ben mawr
- Mwy o egni
- Croen gwell
- Mwy ffit, cyflymach
- Rheoli pwysau
- Risg is o bwysedd gwaed uchel
- Risg is o ddatblygu canserau penodol
- Cof gwell
- Risg is o niwed i'r ymennydd
- Teimlo'n llai pryderus, teimlo'n hapusach
Buddiannau Seicolegol, Cymdeithasol ac Ariannol
- Risg is o ddamwain neu anaf
- Llai o siawns o ymladd
- Datblygu cydberthnasau gwell
- Mwy o hunanhyder
- Mwy o amser
- Mwy o arian
- Pobl yn y gwaith yn eich gweld yn wahanol
Thinking about your Drinking.pdf