MECC // Public Health Network
  • Amdanom Ni
  • E-Ddysgu
  • Adnoddau
  • Eich Ardal
  • Gwasanaethau
  • Cymerwch Ran
  • Amdanom Ni
  • E-Ddysgu
  • Adnoddau
  • Eich Ardal
  • Gwasanaethau
  • Cymerwch Ran
English Cymraeg
Hafan > Adnoddau > Gwybodaeth ffordd o fyw

Gwybodaeth ffordd o fyw

Mae clefydau anhrosglwyddadwy (NCD) yn ffactorau sylweddol sy'n achosi marwolaeth ac anabledd yn y DU a ledled y byd (Sefydliad Iechyd y Byd, (WHO), 2015). Y pedwar prif fath o glefydau NCD yw clefydau cardiofasgwlaidd (fel trawiadau ar y galon a strôc), canserau, clefydau cronig yr ysgyfaint (megis clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint ac asthma) a diabetes.

Mae ffactorau risg ymddygiad y gellir ei addasu megis defnydd o dybaco, diffyg ymarfer corff, deiet nad yw'n iach a defnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol yn cynyddu'r risg o glefydau o'r fath.

Gellir lleihau'r risgiau hyn drwy annog a chefnogi unigolion i wneud newidiadau i wella eu ffyrdd o fyw a sail i hyn yw lles meddyliol da sy'n helpu i fabwysiadu ffyrdd iachach o fyw.

Alcohol

Alcohol

Cyhoeddodd y Prif Swyddog Meddygol ganllawiau newydd ar alcohol yn 2016.  Cliciwch ar Alcohol am wybodaeth bellach am yr argymhellion, y sefyllfa bresennol, risgiau, a buddiannau defnydd isel neu dim defnydd o alcohol.

 

Bwyta'n iach

Bwyta'n iach

Bwyta amrywiaeth eang o fwydydd i sicrhau deiet cytbwys a bod eich corff yn cael yr holl faeth sydd ei angen arno. Cliciwch ar Bwyta'n Iach am wybodaeth bellach am yr argymhellion, y sefyllfa bresennol a buddiannau.

Imiwneiddio

Imiwneiddio

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn amcangyfrif bod 3 miliwn o fywydau’n cael eu harbed bob blwyddyn ledled y byd drwy imiwneiddio, er na fyddwn byth yn gwybod pa unigolion sy’n dal yn fyw oherwydd iddynt gael eu himiwneiddio pan oeddent yn blant. Cliciwch ar Imiwneiddio er gwybodaeth.

 Gweithgarwch corfforol

Gweithgarwch corfforol

Mae bod yn egnïol yn cadw pobl yn iach yn gorfforol ac yn feddyliol. Cliciwch ar Gweithgarwch Corfforol am wybodaeth bellach am yr argymhellion, y sefyllfa bresennol a buddiannau.

Ysmygu

Ysmygu

Rhoi'r gorau i ysmygu yw'r peth gorau y gall person ei wneud dros ei iechyd. Cliciwch ar Ysmygu am wybodaeth bellach am yr argymhellion, y sefyllfa bresennol a buddiannau rhoi'r gorau iddi. 

Public Health Wales

Contact us | Polisi Preifatrwydd | Sitemap
Email: publichealthwales.mecc@wales.nhs.uk
Telephone: 029 2010 4918

©2025. MECC // Public Health Network | Chreu gan Limegreentangerine