Un o bob deg ar hugain o blant sy’n dechrau’r ysgol yng Nghymru yn ddifrifol ordew

Dydd Llun, 11 Mawrth 2019

Mae pwysau’r rhan fwyaf o blant pedair a phump oed yng Nghymru yn iach, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  
CMP Annual Report Cover 2017-18 WelshFodd bynnag, ceir pryderon o hyd bod dros eu chwarter (26.4 y cant) yn rhy drwm neu’n ordew.
 
Canfu’r adroddiad hefyd fod dros fil o blant rhwng pedair a phump oed yng Nghymru (3.3 y cant) yn ddifrifol ordew yn 2017-18 – sef cynnydd o 2.7 y cant ers 2012/13.
 
Adroddiad Blynyddol 2017-18 y Rhaglen Mesur Plant yw’r tro cyntaf i wybodaeth am ordewdra difrifol yn ystod plentyndod gael ei chyflwyno yng Nghymru.
 
Mae cyfran y plant sy’n ddifrifol ordew yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, sef 3.9 y cant – ac mae un o bob ugain (5.1 y cant) o blant yn ddifrifol ordew ym Merthyr Tudful.
 
Canfu’r adroddiad hefyd fod lefelau gordewdra difrifol yn uwch yng Nghymru na Lloegr, ble mae 2.4 y cant o blant yn y categori hwn, ac yn uwch na’r Alban ble mae’r ffigur yn 2.6 y cant.
 
Awgryma tystiolaeth o Loegr y bydd mwy na hanner y plant sy’n ddifrifol ordew yn parhau i fod yn ddifrifol ordew pan fyddant yn 9 neu 10 oed.
 
Meddai Lucy O’Loughlin, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru:
 
“Mae pob plentyn yn haeddu’r dechrau gorau mewn bywyd.  Os bydd plentyn yn treulio’r blynyddoedd cynnar yn iach ac yn hapus mae’n fwy tebygol o dyfu’n oedolyn iach a hapus.
 
“Mae’r adroddiad hwn yn amlygu’r ffaith nad yw plant yn cael yr un cyfleoedd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae cyfraddau gordewdra yn llawer uwch mewn ardaloedd sydd â mwy o anfantais cymdeithasol ac economaidd.
 
“Nid yw lefelau gordewdra ymysg plant yn gwella yng Nghymru, ac mae’n peri pryder mawr bod plant mor ifanc â phedair oed yn y categori gordewdra difrifol.  Gwyddom unwaith y bydd plant yn ordew, eu bod mewn perygl o fynd yn fwy gordew byth wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
 
“Ni fydd pethau’n gwella dim heb gael camau gweithredu sydd â system gydlynus i fynd i’r afael â’r broblem hon.  Dyna pam ein bod yn cefnogi ymgynghoriad cyhoeddus parhaus Llywodraeth Cymru ar y strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach.  Nid oes un ateb syml a fydd yn mynd i’r afael â gordewdra.  Bydd angen cynnwys rhanddeiliaid ar draws y system gyfan, gan gydweithio yn unol â nodau a blaenoriaethau cyffredin.
 
“Mae’n rhaid i rieni frwydro yn erbyn llu o ddylanwadau masnachol pwerus a dylanwadau eraill wrth geisio rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn, megis hysbysebion am fwyd llawn siwgr a braster, pryderon am lefel y traffig ar y ffordd ac, mewn rhai achosion, sicrhau bod ganddynt ddigon o arian i brynu bwyd i’r plant.
 
“Gall rhieni sydd am gael rhagor o wybodaeth am fagu plant iach a hapus fynd i www.pobplentyn.co.uk, sef gwefan a fydd yn eu cynorthwyo o’r adeg pan fyddant yn cynllunio eu beichiogrwydd i’r adeg pan fydd eu plentyn yn bump oed.  Mae’n cynnig cyngor annibynnol sy’n seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol orau, heb unrhyw ddylanwad masnachol.”
 
Rhaglen arolygu yw Rhaglen Mesur Plant Cymru gyda’r nod o ddeall yn well y ffordd y mae plant Cymru yn tyfu.
 
Mae’r rhaglen yn safoni’r ffordd y caiff plant ysgol gynradd eu mesur ledled Cymru.
 
Bydd y wybodaeth a gesglir yn cynorthwyo pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill yn y sector cyhoeddus i ddeall patrymau twf plentyn er mwyn iddyn nhw allu cynllunio gwasanaethau yn unol â hynny.