Prestatyn Iach yn uno â digwyddiad Parkrun cyfagos i helpu gwella lles cleifion

Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2019

Mae staff gofal iechyd sydd wedi’u lleoli ym Mhrestatyn Iach yn uno â digwyddiad Parkrun cyfagos i annog cleifion i gadw’n heini.
 
Mae staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y practis yn rhannu gwybodaeth am Parkrun Bodelwyddan gyda chleifion a all gael budd o gymryd rhan. 
Mae’r fenter yn rhan o ymdrech y practis i ddefnyddio rhagnodi cymdeithasol i gefnogi lles cleifion.
Prestatyn ParkrunRhagnodi cymdeithasol yw pan fydd gweithwyr gofal iechyd yn rhannu gwybodaeth a chyngor am weithgareddau gwirfoddol ac yn y gymuned a fydd yn cael effaith cadarnhaol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl cleifion.
 
Mae digwyddiadau Parkrun yn rhad ac am ddim, ac yn cynnwys rhedeg cwrs pum cilomedr a drefnir gan wirfoddolwyr i bobl o bob gallu athletig. Anogir y rheiny sy’n cymryd rhan i redeg, loncian neu gerdded y cwrs, gyda phwyslais ar gymdeithasu a chadw’n heini, yn hytrach na chystadlu yn erbyn rhedwyr eraill.
 
Cynhelir Parkrun Bodelwyddan ar dir Castell Bodelwyddan, sydd nid nepell o’r ysbyty.  
 
Mae tîm o redwyr brwd o’r practis yn cymryd rhan yn y weithgaredd wythnosol, ac yn annog cleifion i ymuno â nhw i helpu i wella eu lles yn gyffredinol.
 
Dywedodd Alexis Conn, un o’r Therapyddion Galwedigaethol sydd wedi’i lleoli ym Mhrestatyn Iach: “Mae ychydig ohonom o Brestatyn Iach wedi bod yn cymryd rhan yn y Parkrun ers peth amser, ac yn awr rydym yn ceisio dweud wrth ein cleifion sut all gymryd rhan fod o fantais iddyn nhw hefyd.
 
“Mae’n rhan o’n hymdrechion ehangach i rannu gwybodaeth am ddosbarthiadau, digwyddiadau a gweithgareddau sydd ar gael yn yr ardal leol gyda chleifion a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles.
 
“Yn amlwg mae gan gymryd rhan, p’un ai eich bod yn rhedeg neu’n cerdded, yr un manteision iechyd ag sy’n gysylltiedig ag ymarfer corff.
 
“Ond elfen gymdeithasol digwyddiadau Parkrun yw’r hyn sy’n wir fanteisiol – gall cymryd rhan gael effaith cadarnhaol iawn ar iechyd meddwl y rheiny sy’n cymryd rhan, a helpu i fynd i’r afael ag arwahanu ac unigrwydd.”
 
Yn ogystal ag annog cleifion i gymryd rhan yn y Parkrun, mae’r practis hefyd yn rhannu gwybodaeth am weithgareddau eraill yn y gymuned a all helpu cleifion.
 
Mae rhai o’r gweithgareddau y mae Prestatyn Iach wedi cyfeirio cleifion atynt yn cynnwys grwpiau celf a dawnsio lleol, cyfrannu at randiroedd cymuned a grwpiau amgylcheddol, cefnogaeth mewn profedigaeth, a dosbarthiadau ymarfer corff lleol eraill a grwpiau cerdded a beicio.
 
Dywedodd Alexis: “Yng nghanol rhagnodi cymdeithasol y mae cyfle i helpu pobl i fynd allan a chyfarfod unigolion eraill wrth gymryd rhan mewn gweithgaredd sydd o fudd i’w lles.
 
“Mae cael trefn o gymryd rhan mewn dosbarth wythnosol neu ymuno â grŵp lleol wir yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n hiechyd corfforol a’n hiechyd meddwl yn gyffredinol.”
 
Yn ddiweddar unodd Ysbyty Glan Clwyd gyda Parkrun Bodelwyddan mewn menter debyg i helpu pobl sy’n gweithio ac yn derbyn gofal ar y safle i gymdeithasu a chadw’n heini.