Gwyliwch y bwlch: Gwahaniaethau mewn agweddau at iechyd a gwella iechyd ar draws y gymdeithas yng Nghymru

Dydd Iau, 14 Mawrth 2019

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn amlygu gwahaniaethau amlwg o ran barn sy'n ymwneud ag iechyd rhwng pobl yng Nghymru yn dibynnu ar eu hoedran a'u cyflogaeth, a sut y maent yn byw eu bywydau.  
Cadw'n Iach yng Nghymru Adroddiad inlineRoedd pobl a ddywedodd eu bod yn teimlo'n iach yn fwy tebygol o gytuno (59 y cant) y dylai'r GIG wario llai ar drin salwch a mwy ar ei atal na'r rhai a ddywedodd eu bod yn teimlo'n llai iach (46 y cant) - a allai deimlo mwy o angen am driniaeth iechyd.
 
Roedd pobl ddi-waith hefyd yn llai tebygol o gytuno ac ymhlith y rhai 30-49 oed, dim ond 39 y cant o bobl ddi-waith a oedd yn cytuno o gymharu â 59 y cant o bobl gyflogedig.
 
Gall lleihau hysbysebu cynnyrch sy'n niweidio iechyd fel bwyd sothach ac alcohol helpu i atal salwch ond er bod tri chwarter y bobl â deiet iachach (5+ dogn o ffrwythau a llysiau / y dydd) yn cytuno y dylai hysbysebu bwyd sothach gael ei wahardd i leihau gordewdra ymhlith plant, gostyngodd hyn i 64 y cant ymhlith y rhai nad oedd yn bwyta lawer o ffrwythau a llysiau (0-2 dogn y dydd).
 
Yn yr un mor o ran alcohol roedd mwy na hanner (56 y cant) o bobl nad ydynt byth yn goryfed mewn pyliau yn cytuno y dylai hysbysebu alcohol gael ei wahardd er mwyn lleihau problemau alcohol, eto gwnaeth hyn ostwng i ychydig dros 40 y cant ymhlith y rhai sy'n goryfed mewn pyliau.
 
Canfu'r arolwg hefyd fod pobl ddi-waith yn llawer mwy tebygol o deimlo'n ynysig yn gymdeithasol. Ymhlith y rhai 50 oed neu hŷn, roedd 35 y cant o bobl ddi-waith yn cytuno â'r datganiad rwy'n aml yn teimlo'n ynysig yn fy nghymuned leol, o gymharu â 4 y cant yn unig o bobl gyflogedig (ac 8 y cant o bobl wedi ymddeol).
 
Roedd pobl sy'n nodi ymddygiad sy'n niweidio iechyd fel smygu, anweithgarwch corfforol a deiet gwael hefyd yn teimlo'n fwy ynysig na'u cymheiriaid iachach.
Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi a Datblygu Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chyd-awdur yr adroddiad:
 
“Ar y daith tuag at Gymru iachach, fwy cynaliadwy mae'n hollbwysig ein bod yn mynd â phob sector o boblogaeth Cymru gyda ni. Bydd yr adroddiad hwn yn ein helpu i ddeall yn well y dulliau gwahanol a ffefrir gan bobl o ran diogelu a gwella iechyd yn dibynnu ar eu cyfnod bywyd a'u ffordd o fyw, ac felly addasu ein hymdrechion i ddiwallu anghenion gwahanol gymunedau.”
 
Meddai Dr Catherine Sharp, Swyddog Ymchwil, Uned Cydweithredu Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ac awdur arweiniol yr adroddiad:
 
“Mae'r gwahaniaethau a amlygir gan yr arolwg hwn yn awgrymu nad oes un ateb yn addas i bawb wrth dargedu grwpiau gwahanol o'r boblogaeth, hyd yn oed yn yr un ystod oedran a'r un ymddygiad ffordd o fyw, a bydd angen i bobl gael eu haddysgu ynghylch manteision newidiadau o'r fath cyn iddynt allu cael eu cyflwyno i ymyriad er mwyn cael budd llawn.” 
 
Mae canfyddiadau allweddol eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:
  • Ymhlith pobl 30-49 oed, roedd pobl gyflogedig (59 y cant) yn fwy cefnogol i roi cyngor proffesiynol i rieni ar sut i fagu eu plant yn dda o gymharu â'r rhai di-waith 30-49 oed (41 y cant).
  • Roedd pobl a ddywedodd fod ganddynt lefel isel o ran iechyd (61 y cant) yn llai tebygol o gytuno eu bod yn hyderus y bydd y GIG yn diwallu eu hanghenion gofal iechyd o gymharu â phobl â lefel uchel o ran iechyd (74 y cant).
Gofynnwyd i 3,310 o drigolion Cymru faint yr oeddent yn cytuno ag amrywiaeth o ddatganiadau'n ymwneud ag iechyd cyhoeddus.
 

Dolenni