Gwahoddir pobl ar draws Gogledd Cymru i rannu enghreifftiau o sut mae nyrsys iechyd meddwl wedi cael argraff ar eu bywydau

Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019

Gwahoddir pobl ar draws Gogledd Cymru i rannu enghreifftiau o sut mae nyrsys iechyd meddwl wedi cael argraff ar eu bywydau, o flaen dathliad cenedlaethol cyntaf erioed yr alwedigaeth yn nes ymlaen y mis hwn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwahodd pobl i rannu eu negeseuon yn diolch, cyn dathliadau Dydd Nyrsys Iechyd Meddwl ar Chwefror 21.

Rydym yn gwahodd ceisiadau trwy’r cyfryngau cymdeithasol, e-bost neu drwy’r post, a fydd yn cael eu rhannu gyda staff nyrsio iechyd meddwl.

Dywedodd Steve Forsyth, Cyfarwyddwr Nyrsio Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIPBC, sy’n nyrs iechyd meddwl profiadol ei hun, y byddai’r digwyddiad agoriadol yn rhoi cyfle gwych i ddathlu rôl nyrsys iechyd meddwl ar draws y rhanbarth.

Dywedodd: “Mae’n cymryd unigolyn arbennig iawn i fod yn nyrs iechyd meddwl, ac ni ellir tanbrisio’r cyfraniad y maent yn ei wneud o ran gofalu am unigolion a’u teuluoedd. 

“Mae gennym dros 800 o nyrsys iechyd meddwl yn gweithio yn ein hysbytai a’n gwasanaethau cymuned, ac rwy’n falch iawn o bob un ohonynt am y gofal gwych y maent yn ei ddarparu.

“Mae nifer o ffyrdd y gall bobl dweud wrthym pan na fyddwn yn cael pethau’n iawn, ond mae hefyd yn bwysig dathlu’r effaith cadarnhaol enfawr y mae ein nyrsys iechyd meddwl a gweithwyr cefnogi gofal iechyd yn ei gael ar bobl yn ein cymuned pan fydden nhw ei angen fwyaf.

“Dyna pam rydym yn rhoi cyfle i bobl gysylltu’n uniongyrchol i roi gwybod iddynt cymaint y mae eu gofal a’u gwaith caled yn cael ei werthfawrogi.

“Rydym yn gwahodd unrhyw un sydd eisiau anfon neges at ein staff, p’un ai yn unigolyn, tîm neu hyd yn oed ward cyfan neu wasanaeth, i gysylltu drwy e-bost, Facebook, Twitter, neu drwy’r post."

Ymysg y rheiny sy’n cefnogi Dydd Nyrsys Iechyd Meddwl mae Malan Wilkinson o Gaernarfon, sy’n dweud na fyddai yma heddiw heb gefnogaeth nyrsys iechyd meddwl BIPBC.

Dywedodd: “Hoffwn ddiolch i’n nyrsys iechyd meddwl lleol am eu holl waith caled. Heb eu gofal a’u dealltwriaeth, dydw i ddim yn meddwl y byswn i’n dal yma. Mae’n anodd disgrifio cymaint o effaith y maen nhw wedi’i gael ar fy mywyd. Fe wnaethon nhw fy nghefnogi pan oeddwn ei angen fwyaf, ond fe wnaethon nhw roi ffydd i mi hefyd. Ffydd bod modd i mi ddod drwy’r cyfnodau tywyll drwy weithio ochr yn ochr â nhw.  

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i fy Nyrs Seiciatrig Cymuned, June Jones, sydd wir yn seren ddisglair. Mae’r gefnogaeth rwyf wedi’i gael ganddi wedi cael effaith sylweddol ar fy mywyd mewn cyfnodau o drallod mawr.” 

I gyflwyno’ch neges yn diolch, anfonwch e-bost at bcu.getinvolves@wales.nhs.uk, ewch ar dudalen Facebook BIPBC, gadewch eich neges ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #NWalesMHNurses, neu ysgrifennwch atom ar: BCU Proud, Block 5 Carlton Court, St Asaph Business Park, St Asaph, LL17 0JG

Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr