Fferyllydd yn chwarae rhan allweddol yng Nghanolfan Iechyd Blaenau Ffestiniog

Dydd Iau, 14 Mawrth 2019

Mae fferyllydd ym Mlaenau Ffestiniog yn gobeithio dangos sut mae ei rôl wedi datblygu fel rhan allweddol o ofal cychwynnol mewn rhaglen newydd ar S4C.
CeriWMae Ceri Williams, Uwch Fferyllydd ar gyfer Gofal Cychwynnol ac Ysbytai Cymuned, yn gweithio fel fferyllydd practis yng Nghanolfan Goffa Ffestiniog.
 
Dros yr 16 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio fel fferyllydd cymuned a fferyllydd mewn ysbyty yn rheoli meddyginiaeth cleifion.
 
Dywedodd: "Rŵan, yn bennaf rwy'n gweithio fel fferyllydd practis ym Mlaenau Ffestiniog. Rwyf wir yn mwynhau fy ngwaith gan fod pob diwrnod mor amrywiol ac rwy'n cael llawer o gyswllt â chleifion -  dyna rhan orau'r swydd.
 
"Rwy'n teimlo bod cael fferyllydd yn y ganolfan iechyd o fudd mawr i gleifion.
 
"Fy rôl yw sicrhau bod y cleifion yn cael y gorau o'u meddyginiaeth. Rwyf fel arfer yn gweld cleifion sy'n cymryd llawer o feddyginiaeth neu sydd â chlefyd cronig megis Gorbwysedd neu Diabetes sy'n cael ei reoli'n wael.
 
"Rwy'n treulio llawer o amser yn mynd drwy feddyginiaeth cleifion i sicrhau eu bod yn gwybod beth maent yn ei gymryd a pham, rwyf hefyd yn gweithio gyda chleifion i osod nodau triniaeth. Mae mwy i’r gwaith nag ymdrin â meddyginiaeth yn unig, mae hefyd yn ymwneud â byw bywyd iach er mwyn ceisio lleihau faint o feddyginiaeth y mae'n rhaid iddynt ei gymryd."
 
Mae Ceri yn un o sawl aelod o staff o Ganolfan Goffa Ffestiniog sy'n ymddangos ar y gyfres Helo Syrjeri, sy'n rhoi cip olwg tu ôl i'r llenni ar fywyd prysur Meddygon Teulu, y staff a'r cleifion, a beth sy'n dod â nhw at ei gilydd yng nghymuned glòs Blaenau Ffestiniog a'r ardal gyfagos.
 
"Mae'n rhaid i mi ddweud nad oeddwn i'n gyffrous am y posibilrwydd o fod ar y teledu!
 
"Fodd bynnag, roeddwn yn teimlo ei fod yn bwysig i'r cyhoedd weld bod gan fferyllwyr rôl bwysig i'w chwarae yng ngofal cleifion a bod ein rôl wedi newid llawer, gyda llawer ohonom bellach yn rhagnodi. 
 
Ychwanegodd Ceri, "Pan ddechreuais yn fy rôl yn y ganolfan iechyd, roedd rhai cleifion yn ei chael hi'n anodd deall pam eu bod yn fy ngweld yn lle'r meddyg teulu, ond rŵan mae gen i gleifion yn gofyn am gael fy ngweld - sy'n wych."
 
Mae Helo Syrjeri yn parhau ar S4C ar nos Lun am 8.25pm.