Cymorth Helpa Fi i Stopio ar Ddiwrnod Dim Smygu

Dydd Iau, 14 Mawrth 2019

Ar Ddiwrnod Dim Smygu (13 Mawrth), mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atgoffa gweithwyr iechyd proffesiynol i atgyfeirio smygwyr i Helpa Fi i Stopio - yr un pwynt cyswllt yng Nghymru ar gyfer smygwyr sydd am roi'r gorau iddi.  
Gall sefydliadau sy'n hyrwyddo Diwrnod Dim Smygu yng Nghymru gyfeirio smygwyr i'r gwasanaeth, sef y dewis gorau y gall smygwr ei wneud er mwyn rhoi'r gorau iddi. 
 
Mae smygwyr bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi gyda chymorth gwasanaeth fel Helpa Fi i Stopio yn hytrach na cheisio rhoi'r gorau iddi ar eu pen eu hunain.
 
Dywedodd Ashley Gould, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
 
“Nid yw Helpa Fi i Stopio yn wasanaeth sy'n cynnig un ateb i bawb i helpu smygwyr i roi'r gorau iddi - mae'n brofiad wedi'i deilwra sy'n cynnwys smygwyr wrth lunio eu taith i roi'r gorau iddi mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.
 
“Mae'n iawn i ofyn am help.  Gall ein tîm o gynghorwyr ymroddedig gynorthwyo smygwyr i wneud y dewis iawn iddyn nhw o ran rhoi'r gorau iddi, boed hynny mewn grŵp, un i un, neu dros y ffôn.”
 
Rhowch y gorau iddi heddiw drwy ffonio 0800 085 2219, tecstio HMQ i 80818, neu drwy fynd i www.helpafiistopio.cymru.
 
Gall cydweithwyr gael mynediad i'r adnoddau Helpa Fi i Stopio am ddim ar-lein yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/95947