Cyfrannu beic o fudd i gleifion sy'n byw â chyflyrau'r ysgyfaint yn Ysbyty Penrhos Stanley

Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019

Mae cleifion yn Ysbyty Penrhos Stanley sy'n byw a chyflyrau ysgyfaint tymor hir yn cael budd o gyfarpar ymarfer corff newydd.

Mae'r Grŵp Adsefydlu Ysgyfeiniol yn Ysbyty Penrhos Stanley wedi derbyn beic ymarfer gorweddol newydd sbon, diolch i gyfraniad caredig gan Horizon Nuclear Power.

Dechreuwyd proses y cyfraniad drwy Rita Ashworth, sy'n glaf, a ganmolodd y tîm yn yr ysbyty am eu gofal a chefnogaeth i'w helpu i reoli ei diagnosis o glefyd cronig ysgyfeiniol ataliol (COPD)

Meddai: "Mi wnes i fynychu'r grŵp am tua saith wythnos, a gwelais eu bod angen cyfarpar ychwanegol, felly mi wnes i siarad â fy merch yng nghyfraith sy'n gweithio i Horizon Nuclear Power i weld a oedd modd iddynt helpu. 

"Roeddwn wir eisiau rhoi rhywbeth yn ôl wedi iddynt wneud cymaint i mi, maen nhw wir yn dîm caredig ac maen nhw'n helpu cymaint o bobl."

Mae'r Tîm Adsefydlu Ysgyfeiniol yn cynnig rhaglen ymarfer corfforol a gynlluniwyd i bobl gyda chyflyrau'r ysgyfaint, sy'n helpu cleifion i ofalu am eu cyrff a chynnig cyngor ar reoli eu cyflwr, gan gynnwys teimlo'n fyr o wynt.

Dywedodd Caerwyn Roberts, Uwch Ffisiotherapydd o'r Grŵp Adsefydlu Ysgyfeiniol: "Bydd y beic o fudd mawr i'n cleifion, gan ei fod yn eu galluogi i weithio ar eu dygnwch ymarfer gan eistedd wedi'u cefnogi'n gyffyrddus. 

"Oherwydd bod cadw'n actif a chynnal ffitrwydd yn rhan hanfodol o adsefydlu i'r grŵp cleifion hwn, mae bod â chyfarpar o ansawdd yn hwyluso hyn, nid yn unig mae'n cynyddu ysgogiad y claf yn y dosbarthiadau, ond hefyd mae'n cynyddu eu hyder a chynefindra wrth ddefnyddio cyfarpar fel hyn. 

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Horizon Nuclear Power am y cyfraniad hael hwn, a fydd o fudd i nifer o'n cleifion."

Ychwanegodd Samantha Richardson, o Horizon Nuclear Power: "Rydym yn falch ein bod wedi gallu helpu gyda'r prosiect hwn drwy ein Cynllun Buddsoddi yn y Gymuned, gan ei fod yn gweithio i wella iechyd a hyder pobl leol. Mae ei nodau'n adlewyrchu ein gwerthoedd ni yma yn Horizon, a dymunwn bob llwyddiant i'r Grŵp Adsefydlu Ysgyfeiniol."

Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr