Bwrdd Iechyd yn mabwysiadu bathodynnau enwau sy’n ‘deall dementia’ yn dilyn ymchwil Prifysgol Bangor

Dydd Llun, 11 Chwefror 2019

Mae cleifion sy’n byw â dementia yn cael budd o gydweithrediad unigryw rhwng staff o Brifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae’r bartneriaeth, y tybir ei fod y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, yn helpu staff rheng flaen y GIG i ddylunio ffurf newydd o ddarparu gofal.

Mae  myfyrwyr Prifysgol Bangor yn defnyddio cangen arbenigol o seicoleg a elwir yn dadansoddi ymddygiad cymhwysol (ABA), sy’n cynnwys goruchwyliaeth fanwl o’r unigolyn sy’n byw â dementia a’i ymddygiad a chasglu a dadansoddi’r data yn fanwl iawn. Yna bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gynllunio ymyriadau a fydd yn ymdrin ag anghenion yr unigolyn hwnnw.

Mae’r gwaith yn barod wedi arwain at nifer o welliannau, yn cynnwys newidiadau yn y ffordd y mae dodrefn yn cael ei osod ar wardiau ysbyty a newidiadau i sut mae prydau bwyd yn cael eu gweini i annog rhyngweithiad cymdeithasol.  

Yn awr, yn dilyn ymchwil a wnaed gan fyfyrwyr ABA a gweithwyr seicoleg glinigol dan hyfforddiant ar Ward Cemlyn, Ysbyty Cefni ar Ynys Môn, mae staff sy’n gweithio ar Wardiau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn BIPBC yn mynd i fabwysiadu bathodynnau enwau newydd sy’n ‘deall dementia’ i helpu creu perthynas rhwng y staff a’r cleifion.

Mae hwn yn addasiad o’r fenter genedlaethol ‘Helo, fy enw i ydy’ y mae BIPBC hefyd wedi’i ymrwymo iddi.

Mae’r bathodynnau newydd, sy’n defnyddio ffont du mawr ar gefndir melyn sy’n cyferbynnu’n gryf, wedi’u cynllunio’n benodol i’w gwneud yn haws i’r cleifion sy’n byw â dementia eu darllen. Maent wedi’u cyflwyno yn dilyn pryderon bod enwau staff yn anodd i bobl sy’n byw â dementia eu cofio a bod y wybodaeth a ddengys ar fathodynnau enwau traddodiadol y GIG yn gymhleth ac anodd i gleifion sy’n byw â dementia eu darllen.  

Dywedodd Steve Forsyth, Cyfarwyddwr Nyrsio Iechyd Meddwl BIPBC, bod y bathodynnau enwau newydd yn un o’r ychydig newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad i fethodoleg gwella ansawdd HEDDIW MI FEDRAF y Bwrdd Iechyd, sy’n ceisio gwerthfawrogi amser staff a chleifion yn well.

Dywedodd: “Bydd y bathodynnau enwau newydd hyn yn helpu i ddefnyddio’r amser y mae cleifion yn treulio â ni yn yr ysbyty’n well gan ei gwneud yn haws iddynt greu perthnasau therapiwtig gyda’n staff. Mae’n enghraifft wych o sut all newid bach, syml wneud gwahaniaeth go iawn ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r myfyrwyr ABA am eu cefnogaeth barhaus”.

Dengys darganfyddiadau’r astudiaeth ar Ward Cemlyn bod cyflwyno bathodynnau enwau sy’n ‘deall dementia’  yn cynyddu defnydd cleifion o enwau staff, ac wedi helpu i greu perthynas rhwng y cleifion, eu haelodau teulu a’r staff.

Sefydlwyd y bartneriaeth gan Dr Carolien Lamers, Seicolegydd Ymgynghorol sy’n gweithio i BIPBC a Phrifysgol Bangor a Dr Rebecca Sharp, Cyfarwyddwr Gradd Meistr mewn Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor.

Dywedodd Dr Sharp: “Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr fod ar y blaen o ran defnyddio dulliau ymddygiadol, gan weithio ar y cyd â staff i ddod o hyd i ffyrdd arloesol i gefnogi cleifion sy’n byw â dementia ar y ward.”

Ychwanegodd Dr Lamers: “Mae gan ABA fel cangen arbenigol o seicoleg lawer i’w gynnig i helpu staff i ddatblygu gwahanol ddulliau i gleifion sy’n byw â dementia, sydd angen gofal arbenigol mewn lleoliad i gleifion mewnol. Rydym yn falch iawn yn dilyn ein hymchwil ar Ward Cemlyn, bod y bathodynnau enwau newydd hyn yn mynd i gael eu cyflwyno ar Wardiau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn eraill ar draws Gogledd Cymru”.   

Dywedodd Michelle Dickinson, Metron Fodern Dros Dro: “Mae’r bathodynnau yn enghraifft wych o newid bach, cost isel sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i brofiad cleifion a’u teuluoedd.”

Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr