Ymgyrch i leihau heintiau a drosglwyddir yn rhywiol drwy annog pobl i ddefnyddio condomau

Dydd Gwener, 6 Medi 2019

SH.jpg

Mae ymgyrch iechyd rhyw wedi'i lansio i annog pobl i ddefnyddio condomau yn enwedig ymysg oedolion ifanc i leihau cyfraddau cynyddol heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. 

Mae achosion o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) yn parhau i godi yng Nghymru.  Yn 2018, roedd dros 6,800 diagnosis o glamydia, dros 1,400 diagnosis o gonorrhoea a bron i 250 achos o syffilis heintus. 

Yn 2018 gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn diagnosis o achosion newydd o syffilis a gonorrhoea, o'i chymharu â'r llynedd. 

Thema ymgyrch blynyddol SEXtember Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw 'Gwisgwch Gondom' ac mae'n ceisio trafod materion iechyd rhyw yn agored a heb gywilydd.  Eleni bydd yn canolbwyntio ar annog pobl i gael hwyl yn ddiogel drwy wisgo condom. 

Mae'r ymgyrch hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o oblygiadau difrifol STIs, a all achosi anffrwythlondeb, clefyd llidiol y pelfis (PID- haint ar uwch lwybr organau rhywiol merched, yn cynnwys y groth, tiwb Fallopio a'r ofarïau) a cheilliau chwyddedig neu boenus. 

Dywedodd Dr Ushan Andrady, Meddyg Ymgynghorol mewn Meddygaeth Cenhedlol-droethol/HIV ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac arweinydd ymgyrch SEXtember:  "Mae cyfraddau STIs yn parhau i fod yn rhy uchel ac mae'n bryder nad yw llawer o bobl ifanc sy'n cael rhyw yn defnyddio condomau". 

“Y ffordd fwyaf diogel o sicrhau nad ydych yn dal STIs, fel clamydia a gonorrhoea yw drwy ddefnyddio condom. Er nad oes gan lawer o STIs unrhyw symptomau, gall dal y rhain arwain at oblygiadau iechyd difrifol os nad ydynt yn cael eu trin a gall hyd yn oed arwain at anffrwythlondeb.  Fel yr wyf yn dweud wrth fy nghleifion yn fy nghlinig bob wythnos, nid yw'n werth rhoi eich hun mewn perygl drwy beidio â defnyddio condom". 

"Trwy ein hymgyrch SEXtember rydym eisiau i bobl ifanc wybod y gall rhyw fod yn hwyl a diogel, os ydych yn gwisgo condom. 

“Mae canfyddiad yn dal yn bod i lawer bod condomau yn lleihau pleser a hwyl, ond mae modd cael condomau mewn gwahanol siapiau, meintiau a blas.   Dylai condomau fod yn rhan allweddol o weithgarwch rhywiol positif gan eu bod yn helpu i amddiffyn rhag STIs a beichiogrwydd heb ei drefnu.”

Ar draws Gogledd Cymru mae condomau ar gael mewn fferyllfeydd, archfarchnadoedd, peiriannau gwerthu ac o glinigau iechyd rhyw.

Gall pobl ifanc o dan 25 oed gael cyngor iechyd rhyw cyfrinachol yn rhad ac am ddim a chondomau rhad ac am ddim trwy gynlluniau Condom (Cerdyn C). Mae'r cynlluniau hyn yn gweithredu'n bennaf o ganolfannau ieuenctid a sefydliadau gwirfoddol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwasanaethau cerdyn-c yn eich ardal drwy fynd ar www.cccymru.co.uk

I wybod mwy am yr ymgyrch a gwasanaethau Iechyd Rhyw yng Ngogledd Cymru ewch ar www.sextember.org