Tîm Iechyd Deintyddol Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Hyfforddi’r Hyfforddwr

Dydd Iau, 19 Rhagfyr 2019

Ym mis Chwefror 2019, darparodd Tîm Iechyd y Cyhoedd Betsi Cadwaladr sesiwn Hyfforddi’r Hyfforddwr undydd ar Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif i dri uwch aelod o staff yn Nhîm Iechyd Deintyddol Cymunedol Betsi Cadwaladr. Roedd gwerthuso cyn ac ar ôl y sesiwn yn dangos y canlynol:

  • Gwnaeth pob cyfranogwr ennill dealltwriaeth o      ddefnyddio offer newid ymddygiad a thechnegau ymyrryd cryno i wella      sgyrsiau
  • Dangosodd yr holl gyfranogwyr gynnydd yn eu gwybodaeth      am Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif
  • Dangosodd yr holl gyfranogwyr gynnydd yn eu gwybodaeth      am bynciau yn ymwneud â ffyrdd iach o fyw
  • Dangosodd 2 o bob 3 cyfranogwr gynnydd yn eu hyder i ddarparu hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif, gyda’r 3ydd person yn nodi ei fod eisoes yn hyderus wrth ddarparu hyfforddiant cyn y sesiwn a’i fod yn parhau i fod yn hyderus wedi’r sesiwn 

Yn dilyn y sesiwn Hyfforddi’r Hyfforddwr, aeth y staff ymlaen i gynnig yr hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif i gydweithwyr yn eu timau, gan ei ddarparu i ddeg aelod o staff (Addysgwyr Iechyd Deintyddol ac un Hylenydd Deintyddol) dros ddwy sesiwn.

Roedd gwerthusiadau o’r sesiynau yn dangos y canlynol:

  • Cynyddodd 100% o gyfranogwyr eu dealltwriaeth o Gwneud      i Bob Cyswllt Gyfrif
  • Cynyddodd 100% o gyfranogwyr eu dealltwriaeth o newid      ymddygiad
  • Cynyddodd 100% o gyfranogwyr eu dealltwriaeth o’r      gwasanaethau cymorth sydd ar gael
  • Dangosodd 70% o gyfranogwyr fod cynnydd yn eu      dealltwriaeth o bynciau penodol ar ffyrdd iach o fyw
  • Dangosodd 90% o gyfranogwyr fod cynnydd yn eu hyder i gael sgwrs am newid ymddygiad o ran ffordd o fyw 

Sylwadau’r hyfforddwr