Rhaglen frechu Feirws Papiloma Dynol (HPV) mewn ysgolion i gynnwys bechgyn am y tro cyntaf i atal canser ar draws Caerdydd a’r Fro

Dydd Mawrth, 25 Chwefror 2020

Am y tro cyntaf yng Nghymru, yn y flwyddyn academaidd hon, bydd bechgyn 12–13 oed yn cael cynnig brechlyn HPV mewn ysgolion ochr yn ochr â merched fel rhan o’r rhaglen HPV bresennol.

 

Schools HPV vaccination for boys

Caius Jenkins, disgybl yn Ysgol Uwchradd Llanisien yn derbyn ei frechiad HPV yn Ysgol Uwchradd Llanisien.

Cynigir y brechlyn mewn ysgolion ledled Caerdydd a’r Fro o’r wythnos hon trwy raglen 10 wythnos.

Mae’r brechlyn HPV wedi cael ei gynnig i ferched 12–13 oed ym mlwyddyn 8 yr ysgol ers 2008. Mae’n amddiffyn rhag canser ceg y groth, rhai canserau’r pen a’r gwddf, a rhai canserau’r anws ac organau cenhedlu.

Meddai Lorna Bennett, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: “Nid yn unig y bydd y brechlyn HPV yn amddiffyn bechgyn rhag clefydau sy’n gysylltiedig â HPV – megis canser y geg, y gwddf a’r anws – ond bydd hefyd yn helpu i leihau nifer canserau’r groth mewn menywod, trwy wella ‘imiwnedd y gynulleidfa’.”

“Mae astudiaeth ddiweddar yn dangos bod tystiolaeth gymhellol o effaith sylweddol rhaglenni brechu HPV ar heintiau HPV a thwf cyn-ganseraidd ymhlith merched, menywod, bechgyn a dynion.

“Rwy'n gobeithio y bydd rhieni'r holl fechgyn a merched cymwys yn manteisio ar y cynnig i gael y brechlyn hwn sy'n achub bywydau.”

Meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Credir bod HPV yn gyfrifol am dros 90 y cant o ganserau ceg y groth, yn ogystal â 90 y cant o ganserau'r anws, tua 70 y cant o ganserau'r wain a'r fwlfa a mwy na 60 y cant o ganserau pidynnol.”

“Mae'r brechlyn HPV wedi'i roi i fwy na 10 miliwn o fenywod ifanc yn y DU a thros 80 miliwn dos ledled y byd.”

Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - BIPCF