Prosiect Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – 2016

Dydd Gwener, 14 Mehefin 2019

Cafodd tri aelod o staff y Gwasanaeth Tân eu hyfforddi i fod yn hyfforddwyr ac aethant yn eu blaenau i ddarparu hyfforddiant MECC i tua 350 o staff ym mhob rhan o’r sefydliad. 

Roedd prif uchafbwyntiau’r gwerthusiadau Hyfforddi'r Hyfforddwr yn dangos y canlynol;

  • Cafodd yr hyfforddwyr ddealltwriaeth o MECC a gwybodaeth newydd ynghylch sut mae darparu hyfforddiant
  • Roedd yr hyfforddwyr i gyd yn teimlo bod ganddynt ddigon o wybodaeth i ddarparu’r hyfforddiant 
  • Roedd yr hyfforddwyr i gyd yn teimlo’n ddigon hyderus i ddarparu’r hyfforddiant i gyd-weithwyr (gyda rhywfaint o help gan Iechyd y Cyhoedd i ddechrau)

O'r 350 aelod o staff a gafodd yr hyfforddiant MECC, cafodd 120 o werthusiadau cyn ar ôl yr hyfforddiant eu casglu ac mae'r prif uchafbwyntiau’n cael eu dangos isod;

Dywedodd 100% bod eu dealltwriaeth o MECC wedi gwella

Dywedodd 100% eu bod wedi cael gwybodaeth newydd am ymyriadau byr, newid mewn ymddygiad a/neu adnoddau newid mewn ymddygiad.

Dywedodd 77% eu bod yn gwybod mwy am bynciau sy'n ymwneud â ffyrdd o fyw o ganlyniad i’r sesiwn

Roedd 73% yn teimlo’n fwy hyderus i gael sgwrs am ffyrdd o fyw 

Fe wnaeth 33% nodi newidiadau roeddent am eu gwneud i’w ffordd o fyw eu hunain

Fe wnaeth 30% nodi newid penodol yr hoffent ei weithredu yn eu harferion gwaith ar unwaith

Fe wnaeth y gwaith hwn ennill ‘Gwobr Partneriaid Diogelwch Cymunedol’ Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’r wobr hon yn cydnabod gwaith asiantaethau partner neu gyrff cyhoeddus sy'n gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ddarparu negeseuon diogelwch cymunedol hanfodol.

Dywedodd siaradwr ar ran gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, “Rydyn ni bellach yn darparu archwiliad diogelwch yn y cartref sy'n llawer mwy holistig ac integredig, gyda’r nod o sicrhau canlyniadau iechyd gwell i’n cymunedau. Er mwyn i'r timau allu darparu’r gwasanaeth newydd hwn, roedd hi’n amlwg bod angen hyfforddi'r staff fel bod ganddynt yr hyder a’r wybodaeth i drafod pryderon sydd gan breswylwyr”.

“O dan faner ‘Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif’, mae Iechyd Cyhoeddus Gogledd Cymru wedi helpu i ddatblygu Gweithwyr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref a’n criwiau gweithredol fel eu bod yn gallu trafod, cynghori a chyfeirio preswylwyr yng nghyswllt materion iechyd”.

 

FireServiceAward.jpg