Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio ymgyrch llesiant COVID-19 newydd

Dydd Mercher, 15 Ebrill 2020

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch llesiant newydd i fynd i’r afael ag effaith    negyddol COVID-19 ar lesiant meddyliol, corfforol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.

Mae’r ymgyrch newydd ‘Sut wyt ti?’, wedi’i chreu i gefnogi pobl Cymru i ofalu am eu llesiant ac i sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei amddiffyn yn ystod y cyfnod ynysu.

Daw hyn yn dilyn galwad gan lawer o elusennau ac arbenigwyr hawliau dynol yn rhybuddio y bydd mesurau ynysu brys i fynd i’r afael â COVID-19 yn peryglu pobl anabl, pobl sy’n agored i niwed a phobl hŷn, yn ogystal â chael mwy o effaith negyddol ar lesiant meddyliol a chorfforol y cyhoedd yn ehangach.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio microwefan newydd, sy'n gartref i gyfoeth o wybodaeth sy'n cynnig cefnogaeth ymarferol i bobl a allai gael eu heffeithio gan y pryderon a amlygwyd yn yr ymchwil. Mae'r microwefan hefyd yn darparu dolenni defnyddiol i elusennau a grwpiau cymorth i bobl sy'n teimlo eu bod wedi'u gorlethu gan y sefyllfa bresennol.

Mae hysbysebu ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch newydd yn cynnwys hysbyseb teledu a radio, yn ogystal â chynnwys cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys yr is-bennawd ‘Sut wyt ti?'

Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n hynod bwysig ein bod yn amddiffyn ein hunain a’n gilydd trwy ddilyn yr holl ganllawiau a mesurau ar gyfer COVID-19, ond rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod cadw pellter cymdeithasol a chael ein hynysu oddi wrth anwyliaid yn anodd ac y gall effeithio’n negyddol ar ein llesiant, sef pam y gwnaethom benderfynu lansio ein hymgyrch “Sut wyt ti?”.

“Rydyn ni eisiau i bobl ddeall ei bod hi’n iawn gofyn am help a chefnogaeth ar gyfer ein llesiant cymdeithasol, meddyliol a chorfforol a gwybod ein bod ni yma i helpu pawb yn ystod yr amseroedd anodd hyn.”

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl yn cysylltu â'r ymgyrch “Sut wyt ti?” a defnyddio'r gefnogaeth hawdd ei chyrchu sydd ar gael i sicrhau eu bod yn parhau i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid, yn cynnal llesiant meddyliol cadarnhaol a lles corfforol da trwy gydol, ac ar ôl, y cyfnod ynysu hwn. "

Am mwy o wybodaeth cliciwch yma.