Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif

Dydd Gwener, 14 Mehefin 2019

Cafodd dau ddigwyddiad Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) eu cynnal yng Nghanolfan Gynadledda Optic yn Llanelwy ar 12 Gorffennaf 2018.

Diben digwyddiad y bore oedd ymgysylltu â sefydliadau sydd â diddordeb yn y cysyniad sy’n sail i’r dull MECC o weithredu, a’r modd y gallai’r dull gweithredu gael ei gyflwyno yn y sefydliadau hynny.

Roedd digwyddiad y prynhawn ar gyfer sefydliadau sydd wedi ymgorffori neu sydd wrthi’n ymgorffori MECC. Roedd yn gyfle gwych i sefydliadau fyfyrio, rhannu profiadau a rhannu’r hyn y maent wedi’i ddysgu yn ystod eu hymwneud â MECC.

Rhoddodd Rhiannon Hobbs, Uwch-ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn yr Is-adran Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyflwyniad ynghylch y canlynol yn ystod y ddau ddigwyddiad:

  • Canlyniadau’r ymchwil a gynhaliwyd gan Beaufort ynghylch sgyrsiau am ymddygiad o ran iechyd yn GIG Cymru
  • Datblygiadau o ran gwefannau
  • Darpariaeth e-ddysgu Lefel 1 MECC
  • Fframwaith gwerthuso MECC.

Mae’r adborth a gafwyd o’r ddau ddigwyddiad wedi bod yn gadarnhaol. Bydd y camau nesaf yn cynnwys rhoi cymorth parhaus i’r sefydliadau hynny sydd wedi ymgorffori neu sydd wrthi’n ymgorffori’r dull MECC o weithredu. Cynigir cymorth hefyd i’r sefydliadau hynny sydd â diddordeb mewn archwilio’r dull gweithredu ymhellach.

 

2018 Event display.PNG

 

Event 2018 pledges.PNG