Cynllun Strategol Bwydo Babanod Betsi Cadwaladr

Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019

Cynllun Strategol Bwydo Babanod Betsi Cadwaladr

                        

 

Nod Cynllun Strategol Bwydo Babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw hyrwyddo a chefnogi'r maeth gorau posibl i fabanod a phlant bach a sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cefnogi i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth mewn perthynas â bwydo a meithrin eu plentyn, gan arwain at welliannau mewn iechyd a llesiant.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ledled Gogledd Cymru hefyd yn cefnogi Strategaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo bwydo ar y fron ac yn cydnabod bod gan bob mam hawl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut y bydd yn bwydo ac yn gofalu am ei baban.  Gallwch weld y Cynllun Strategol trwy'r ddolen ganlynol.

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/documents/861/BCUHB%20Infant%20Feeding%20Strategic%20Plan%202019.pdf