Canllawiau Gweithgaredd Corfforol Newydd

Dydd Mawrth, 26 Tachwedd 2019

Canllawiau Gweithgaredd Corfforol Newydd

                       

Mae canllawiau newydd wedi’u rhyddhau gan Brif Swyddogion Meddygol y DU ar faint a’r math o weithgaredd corfforol y dylai pobl o bob oed a gallu fod yn ei wneud i wella eu hiechyd.

Gall hyn helpu ar gyfer eich sgyrsiau Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif:

GOFYNNWCH:   Sut ydych chi'n teimlo am eich lefelau gweithgaredd corfforol cyfredol?

RHOWCH GYNGOR: Oeddech chi'n gwybod nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau bod yn actif a bod pob munud o weithgaredd yn cyfrif tuag at iechyd gwell?

GWEITHREDWCH: Gallech ofyn i'ch meddyg teulu neu i’ch Nyrs Practis a ydych chi'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, neu gallech chi ymweld â'ch canolfan hamdden leol i weld a ydynt yn cynnig unrhyw weithgareddau y mae gennych ddiddordeb ynddynt.

https://www.gov.uk/government/publications/physical-activity-guidelines-infographics