Beth yw buddiannau GBCG?
Mae buddiannau a nodir yn glir o ddefnyddio dulliau GBCG ar bob cyfle posibl:
Buddiannau sefydliadol
- Gall gweithredu GBCG helpu sefydliadau i gyflawni eu cyfrifoldebau craidd tuag at iechyd a lles eu poblogaeth leol ac i gyflawni rhwymedigaethau o fewn contract safonol y GIG.
- Gall helpu sefydliadau i gyflawni cyfrifoldebau tuag at eu gweithluoedd, er enghraifft drwy wella ymwybyddiaeth staff o faterion iechyd a lles; a gwella sgiliau, hyder a chymhelliant staff a sicrhau gwelliannau i iechyd a lles staff o bosibl.
- Gellir ymgorffori gweithgarwch GBCG fel rhan o fentrau gwella iechyd neu wella gweithlu presennol, er enghraifft, wrth fynd i'r afael â mynediad at opsiynau bwyd iachach.
Buddiannau i'r gymuned a'r economi iechyd lleol
- Gall buddiannau GBCG gynnwys gwella mynediad at gyngor ynghylch ffyrdd iach o fyw, gwelliant o ran ffactorau risg afiachusrwydd a marwolaethau o fewn poblogaeth leol; ac arbed costau i sefydliadau a'r economi iechyd lleol.
- Gall hefyd gefnogi gweithgarwch gwella iechyd o fewn cymunedau lleol, a darparu dull sy'n ymestyn allan i aelodau a grwpiau'r gymuned. Gall GBCG gynnig dull o helpu cymunedau i gydweithredu â'i gilydd.
Buddiannau staff
- I staff, mae GBCG yn golygu cael y cymhwysedd a'r hyder i gyflwyno negeseuon ffordd iach o fyw, ac annog pobl i newid eu hymddygiad a'u hatgyfeirio at wasanaethau lleol a all eu helpu i newid.
Buddiannau cenedlaethol/poblogaeth
- Mae'n cynnig dull o fanteisio i'r eithaf ar adnoddau presennol ar gyfer gwella iechyd poblogaeth. Er enghraifft, gall gynnwys cyngor ar weithgarwch cost isel neu am ddim, megis darbwyllo rhieni i gerdded eu plant i'r ysgol; neu, fel rhan o gyngor gweithgarwch corfforol, annog mwy o ddefnydd o adnoddau cymunedol presennol megis canolfannau hamdden a phyllau nofio.
- Gall GBCG fod yn effeithiol wrth helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac effaith y penderfynyddion iechyd ehangach, drwy gefnogi newid ymddygiad unigol. Er enghraifft, mae rhai gwasanaethau lleol yn defnyddio'r dull GBCG a mwy i ymgysylltu â phoblogaethau lleol o ran rheoli dyled, camau gweithredu tuag at gael swydd neu fynd i'r afael â materion tai.
- Gall dull lefel poblogaeth GBCG hefyd helpu i fynd i'r afael â mynediad teg, drwy annog y rheini na fyddent wedi cynnal 'sgwrs iach' nac ystyried defnyddio gwasanaethau cymorth lleol arbenigol fel arall, megis ar gyfer rheoli pwysau.
Buddiannau unigol
- I unigolion, mae GBCG yn golygu ceisio cymorth a gweithredu i wella eu ffordd o fyw eu hunain drwy fwyta'n well, cynnal pwysau iach, yfed alcohol yn ddoeth, gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, peidio ag ysmygu ac edrych ar ôl eu lles a'u hiechyd meddwl.