Am Powys

 

Trosolwg Powys:

Mae Powys yn lle gwych i fyw a gweithio, ac mae nifer o drigolion yn mwynhau iechyd da o ganlyniad i hynny.  Serch hynny, mae heriau sylweddol o hyd o ran gwella ymddygiadau iechyd a deilliannau iechyd ymhellach, er enghraifft:

  • Mae nifer y bobl sy'n ysmygu yn rhy uchel o hyd ac nid yw digon o ysmygwyr yn cael gafael ar wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu.
  • Nifer y bobl sydd dros bwysau ac yn ordew – yn unol â gweddill Cymru, mae gormod o bobl dros bwysau neu'n ordew yn blant ac yn oedolion.  Nid oes digon o blant wedi cael eu holl frechiadau ac mae cyfraddau brechiad rhag y ffliw ar gyfer pobl dros 65 oed a phobl o dan 65 oed sydd mewn perygl a merched beichiog yn parhau i fod yn is na thargedau cenedlaethol.
  • Dim ond 4 o bob 10 oedolyn sy'n egnïol yn gorfforol ar 5 diwrnod yr wythnos neu fwy.

Wrth edrych i'r dyfodol yn 2017/18, mae ein meysydd â blaenoriaeth fel y nodir yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig yn cynnwys lleihau nifer y bobl sy'n ysmygu, lleihau nifer y bobl sydd dros bwysau a gordewdra, cynyddu cyfraddau brechiadau tymhorol rhag y ffliw, cynyddu cyfraddau imiwneiddio rheolaidd a drefnwyd, cynyddu gwydnwch plant a phobl ifanc a darparu hyfforddiant Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif . Bydd hefyd ffocws penodol ar flynyddoedd cynnar gyda gwaith i fynd i'r afael â phrofiadau andwyol yn ystod plentyndod. 

GBCG ym Mhowys

Ein Hamcan GBCG: Rhoi'r ddealltwriaeth, y sgiliau a'r hyder i unigolion godi'r mater o newid ymddygiad iechyd yn effeithiol gyda chleientiaid, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau, fel bod trafodaeth effeithiol am ymddygiadau iechyd yn dod yn rhan arferol, heb feirniadaeth ac annatod o gyfrifoldeb proffesiynol pawb.

Mae Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (GBCG) yn rhaglen sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n helpu unigolion i ddod yn eiriolwyr dros newid ymddygiad. Bydd llawer o staff eisoes yn cynnal 'sgyrsiau' sy'n hyrwyddo newid ffordd o fyw yn rheolaidd fel rhan o'u rôl. Yn GBCG rydym yn cyfeirio at y sgyrsiau hyn fel 'cyngor cryno' neu 'ymyriad byr'. Bydd hyfforddiant GBCG yn sicrhau bod gan staff y sgiliau a'r hyder i nodi cyfleodd i ddefnyddio cyngor cryno neu ymyriadau byr ac i siarad â chleifion, defnyddwyr gwasanaethau, teulu, ffrindiau a chydweithwyr am wneud newidiadau iach i'w ffordd o fyw.

Mae'r ymddygiadau iechyd allweddol yr eir i'r afael â nhw drwy GBCG yn cynnwys bwyta'n iach, gweithgarwch corfforol, alcohol, ysmygu, ffliw ac iechyd a lles meddyliol. Ym Mhowys rydym yn cynnig cwrs Lefel 1+ a chwrs Lefel 2.  Mae'r cwrs Lefel 1+ yn canolbwyntio ar gyngor cryno ac mae wedi'i anelu at y rheini nad oes ganddynt lawer o brofiad o newid ymddygiad iechyd na ffyrdd iach o fyw. Mae'r cwrs lefel 2 yn canolbwyntio ar ymyriad byw, ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer y rheini sy'n gweld cleientiaid/cleifion yn rheolaidd, ac sydd â dealltwriaeth gefndirol o ffyrdd iach o fyw a newid ymddygiad iechyd.  I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant GBCG ac i ddarganfod pa gwrs fyddai fwyaf addas i chi, lawrlwythwch daflen a throsolwg y cwrs isod.

Sut i Archebu Hyfforddiant GBCG

Mae hyfforddiant GBCG yn berthnasol i unrhyw un sy'n cysylltu neu'n rhyngweithio'n rheolaidd ag eraill a/neu sydd â diddordeb mewn hyrwyddo ffyrdd iach o fyw a/neu helpu eraill i edrych ar ôl eu hunain.

Ym Mhowys, gellir archebu hyfforddiant GBCG drwy gysylltu â thîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn uniongyrchol. Mae'n well gennym hyfforddi grŵp penodol o staff neu sefydliad a gallwn hyfforddi isafswm o 6 person ac uchafswm o 26 mewn unrhyw sesiwn unigol. Hyd yn hyn rydym wedi hyfforddi staff o amrywiaeth o sefydliadau a disgyblaethau gan gynnwys staff mewn meddygfeydd, nyrsys, ffisiotherapyddion, ymwelwyr iechyd, bydwragedd, y gwasanaeth tân, therapyddion lleferydd ac iaith, therapyddion galwedigaethol, staff gweinyddol, Kaleidoscope, staff MIND a llawer mwy.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trefnu hyfforddiant GBCG ar gyfer eich grŵp staff neu sefydliad, cysylltwch â  PowysPHT.admin@wales.nhs.uk  neu ffoniwch ni ar 01874 712738

Cyflwyno GBCG ym Mhowys

Mae'r hyfforddiant GBCG a gynigir gan y Tîm Iechyd Cyhoeddus yn cynnig cyngor ymarfer ar sut i gynnal sgyrsiau ar hap, atgyfeirio at wasanaethau lleol ac annog pobl i wneud camau cadarnhaol tuag at wneud newid o ran ffordd iach o fyw. Isod ceir rhai enghreifftiau i sut mae GBCG wedi effeithio ar staff.

Christina Thomas (Nyrs Uned Mân Anafiadau, Ystradgynlais): 'Es i i sesiwn hyfforddiant GBCG ym mis Mehefin, ac roeddwn wir yn gallu gweld sut y byddai'r cwrs o fudd i'r holl staff yn fy ngweithle (Ysbyty Ystradgynlais). Mae'r egwyddorion a sgiliau a drafodir ar y cwrs GBCG yn berthnasol i bob aelod o staff ac roeddwn o'r farn drwy hyfforddi'r sefydliad cyfan, gallwn ddechrau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd y boblogaeth. Gweithiais yn agos â'r Tîm Iechyd Cyhoeddus, ac ym mis Tachwedd, cafodd yr holl staff ar safle'r ysbyty hyfforddiant GBCG dros gyfnod o dri diwrnod. Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl rydym wedi'u hatgyfeirio at Dim Smygu Cymru ers yr hyfforddiant."

Sian Young (Ffisiotherapydd, Aberhonddu): "Es i i'r hyfforddiant GBCG yn ysbyty Ystradgynlais ym mis Tachwedd. Cyn mynd, roeddwn ychydig yn ansicr ynglŷn â sut y byddai GBCG yn berthnasol i fy rôl fel ffisiotherapydd ac a fyddai'n ddefnyddiol i mi. Cefais fy synnu fy mod wir wedi mwynhau'r sesiwn, roedd yn llawn gwybodaeth ac yn rhyngweithiol a roddodd gyfle i mi ddysgu sgiliau newydd a rhannu syniadau â chydweithwyr eraill. Roeddwn hyd yn oed yn teimlo bod gen i fwy o gymhelliad ar ôl y sesiwn, ac yr wythnos honno dechreuais fynd i hyfforddiant pêl-rwyd, yr oeddwn wedi bwriadu mynd iddo ers amser! Rwy'n edrych ymlaen at ymarfer rhai o'r sgiliau a ddysgais gyda fy nghleientiaid'.

Maralene Griffiths, (Ymwelydd iechyd, Llansantffraid): 'Roeddwn wedi bod yn meddwl ers amser am ffyrdd y gallwn helpu'r teuluoedd rwy'n ymweld â nhw i fod yn fwy egnïol. Ar ôl mynd i'r sesiwn hyfforddiant GBCG, cefais fy ysbrydoli i roi pethau ar waith. Cysylltais â Tessa o'r tîm Iechyd Cyhoeddus ac mae gennym 3 sesiwn hyfforddiant arweinydd cerdded llawn bellach gyda'r nod o gyflwyno digwyddiadau cerdded Bygi/cymunedol yn cynnwys Gweithwyr Iechyd Proffesiynol a'r gymuned leol o amgylch Powys."

Mae'r gwerthusiad o GBCG ar gyfer y flwyddyn gyntaf y'i cyflwynwyd (2015/16) yn dangos rhai canlyniadau cadarnhaol. Cliciwch ar y poster i weld ein canfyddiadau yn fanylach;

Poster Cynhadledd Ymchwil CBCG

Adnoddau

Bob mis, mae tîm Iechyd Cyhoeddus Powys yn cyhoeddi bwletin sy'n canolbwyntio ar yr ymddygiadau iechyd yr eir i'r afael â nhw drwy GBCG ac yn hysbysu'r rheini sydd wedi cael hyfforddiant GBCG am unrhyw newyddion a datblygiadau.

Os hoffech weld cyhoeddiadau blaenorol o'n bwletin GBCG misol,  cliciwch yma

Os hoffech gofrestru ar gyfer ein bwletin GBCG misol,   cliciwch yma

Rydym hefyd wedi cynhyrchu llyfrynnau i gefnogi'r pecynnau hyfforddiant Lefel 1 a Lefel 2. I weld llyfryn ar-lein, cliciwch yma;

llyfryn GBCG Lefel 1.pdf

Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyflwyno GBCG ym Mhowys drwy gysylltu â thîm iechyd cyhoeddus Powys. Gellir hefyd weld rhagor o wybodaeth ar ein tudalen rhyngrwyd - http://www.biapowys.cymru.nhs.uk/gwneud-i-bob-cyswllt-gyfri