Beth yw’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff?
Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2018
Mae'r cynllun yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol yn Abertawe.
Mae'r cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff a ddarperir gan Ddinas a Sir Abertawe'n rhan o'r rhaglen atgyfeirio genedlaethol (a ariennir gan Lywodraeth Cymru). Nod y cynllun yw annog unigolion sy'n anweithgar ar hyn o bryd i gymryd rhan mewn chwaraeon fel rhan o raglen ataliol neu adsefydlu.
Mae'r cynllun yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol yn Abertawe sy'n cynnwys meddygon teulu lleol, nyrsys practis, deietegwyr, ffisiotherapyddion, nyrsys diabetes, seicolegwyr a therapyddion galwedigaethol.
Drwy'r cynllun hwn, rydym yn gallu darparu amrywiaeth o raglenni y gall gweithwyr iechyd proffesiynol gyfeirio pobl atynt. Mae'r rhain yn cynnwys:
Atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff
Atal cwympiadau
Adsefydlu cleifion y galon
Adsefydlu cleifion yr ysgyfaint
Ymarfer corff ar ôl strôc
Adsefydlu cleifion canser
Rhaglen rheoli pwysau