ARDAL CASTELL-NEDD PORT TALBOT

Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2018

Mae’r Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon wedi ymrwymo i ddatblygu ac i hyrwyddo bywyd gwell i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot drwy eu hannog i fyw bywydau gweithgar.

Mae’r Gwasanaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon yn cefnogi llawer o wahanol brosiectau neu fentrau. Drwy gydweithio â’r Cyngor Chwaraeon, cyrff llywodraethu chwaraeon a chlybiau yn y sector gwirfoddol, ein nod yw darparu cyfleoedd i alluogi’r gymuned i fod yn fwy gweithgar ac i fwynhau ffyrdd iachach o fyw.