Am Abertawe Bro Morgannwg

Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BA ABM) mae’r Tîm Iechyd Cyhoeddus wedi gweithio ochr yn ochr â Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd at ddatblygu a threialu dynesiad at Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif sy’n arddel yr egwyddor o Hyfforddi’r Hyfforddwr (GBCG/MECC). Fe hyfforddwyd grŵp bach o aelodau staff o Adrannau Therapïau i roi hyfforddiant GBCG i’w cydweithwyr cyn gwerthuso’r profiad (gweler yr adroddiad gwerthuso). At ei gilydd, cafwyd bod hyfforddiant GBCG wedi cynyddu:

  • Yr hyder i roi hyfforddiant GBCG i eraill
  • Gwybodaeth am ffyrdd iach o fyw
  • Yr hyder i drafod ffyrdd iach o fyw

Yn dilyn y cynllun peilot, fe sefydlwyd grŵp mewnol gan aelodau staff Therapïau, gan ganolbwyntio ar wneud egwyddorion Cydgynhyrchu a GBCG yn rhan annatod o’u hymarfer. Mae aelod o Dîm Iechyd Cyhoeddus SB yn eistedd ar y grŵp hwn ar hyn o bryd, gan helpu i’w lywio.

Mae hyfforddiant pellach wedi digwydd gydag Ymwelwyr Iechyd a sefydliadau sy’n rhan o Brosiect Heneiddio’n Dda Cyngor Dinas a Sir Abertawe, ac mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys:

  • Hybu E-Ddysgu gerbron holl aelodau staff y Bwrdd Iechyd a sefydliadau eraill
  • Datblygu rhaglen i Eiriolwyr GBCG
  • Sicrhau bod egwyddorion llythrennedd iechyd yn rhan o hyfforddiant GBCG
  • Rhoi rhaglen Hyfforddi’r Hyfforddwr ehangach ar waith gyda staff y Bwrdd Iechyd

Gwaith, Lles a Chithau

Trefnwyd tri digwyddiad ar y cyd gan Ardal De Orllewin Cymru’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Tîm Iechyd Cyhoeddus SB, Tîm Iechyd Cyhoeddus Cwm Taf, Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda a Thîm 1000 o Fywydau a Mwy, ar gyfer staff Ardal De Orllewin Cymru’r DWP, ar y thema Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Rhoddodd staff y DWP yr enw ‘Gwaith, Lles a Chithau’ i’r achlysuron hyn.

Fe gynhaliwyd y digwyddiadau ym mis Medi a mis Hydref 2016, a daeth 38 o aelodau staff y DWP i gymryd rhan. Nod y cyfarfodydd oedd sicrhau bod staff Canolfannau Gwaith yn teimlo’n ddigon galluog a hyderus i godi materion megis ffyrdd iach o fyw a’u trafod gyda chleientiaid gyda golwg ar gael hyd i wasanaethau priodol i’w helpu i newid eu hymddygiad. Cynlluniwyd y cyfarfodydd hyn mewn modd ymarferol a rhyngweithiol i gynorthwyo staff sy’n gweithio gyda phobl ddiwaith tra’u bod wrthi’n derbyn hyfforddiant, yn myfyrio ac yn rhwydweithio gyda gwasanaethau sy’n hyrwyddo ffyrdd iach o fyw.

Ers y cyfarfodydd hyn mae’r rhai a’u mynychodd wedi trefnu achlysuron llai mewn canolfannau gwaith lleol i basio’r negeseuon pwysig ymlaen i’w cydweithwyr. Gwelwyd cynnydd hefyd yn nifer y cleientiaid sydd wedi cael eu cyfeirio at wasanaethau byw yn iach gan staff y DWP.

Cyswllt: Beth Preece beth.preece2@wales.nhs.uk 01639 507283

Canllw gweithgarwch corfforol PHW Physical Activity (ABMUHB).pdf