Am Aneurin Bevan

Rhaglen genedlaethol yw Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC), sy’n sicrhau bod diogelu a hybu iechyd a lles wrth wraidd pob cyswllt. Y nod yw defnyddio pob cyfle a geir gyda chlaf i wella iechyd a lles drwy: gymell newidiadau o ran ymddygiad, cynnig cyngor a chymorth a chyfeirio’r claf at wasanaethau, os yw hynny’n briodol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio tuag at gyrraedd sefyllfa lle mae pob aelod o staff yn cydnabod y rôl hanfodol y gallant ei chwarae o safbwynt gwella iechyd, a lle mae trafod mddygiad allweddol o ran iechyd yn elfen arferol o bob math o ofal. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dangos ei ymrwymiad i MECC drwy bennu targed, sef hyfforddi 10% o’i staff rheng flaen bob blwyddyn.

Os hoffech wybod mwy am y rhaglen MECC ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac am yr ystod o hyfforddiant sydd ar gael, gallwch gysylltu â thîm MECC y Bwrdd Iechyd yn y cyfeiriad canlynol:

  • ABUHB.MECC@wales.nhs.uk

  • Tel: 01495 241208

  • Tîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan Gwent, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ty Llanarth, 1 Porth Trecelyn, Stryd y Bont, Trecelyn  NP11 5GH

I gael gafael ar ein hadnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy’n cynnwys posteri, negeseuon allweddol, adnoddau y gellir eu hargraffu a gwybodaeth am wasanaethau lleol, ewch i:

http://howis.wales.nhs.uk/sitesplus/866/page/63928