Tîm fferyllfa yn ennill gwobr Seren Betsi am eu hymrwymiad i les meddyliol staff
Dydd Llun, 11 Chwefror 2019
Mae fferyllydd a thechnegydd fferyllfa wedi cael Gwobr y Bwrdd Iechyd am eu hymrwymiad i gefnogi aelod o staff drwy ei heriau iechyd meddwl.
Pan fynegodd aelod o'r tîm ei fod yn cael trafferth gwneud ei waith oherwydd ei frwydr â phroblemau iechyd meddwl, daeth y rheolwyr i’r adwy i helpu.
Mae Amber Wynne, Fferyllydd yn Wrecsam a Samantha Carvell, Prif Dechnegydd Fferyllfa, yn teimlo ei bod yn hanfodol i ddarparu cefnogaeth 'ar bob cyfle' i'w tîm i sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus yn y gweithle.
Dywedodd Amber, "Fel rheolwr llinell rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i gefnogi staff ar bob cyfle. Rwy'n meddwl bod llawer o unigolion yn canolbwyntio ar iechyd corfforol, ond mae’n bwysig iawn i ofalu am iechyd meddwl hefyd.
"Nid ydw i eisiau i unrhyw un orfod cuddio eu problemau iechyd meddwl, a pheidio â siarad amdanynt, ac rwyf eisiau i unigolion yn y tîm deimlo'n gyfforddus bob amser, a gwybod y gallent fod yn agored ac yn onest. Ni fyddem byth yn barnu nac yn cosbi unrhyw un am hyn.
Dywedodd Samantha, "Roedd hi'n syrpreis mawr i ennill y Wobr. Mae mor hyfryd cael eich cydnabod am rywbeth rydych yn ei wneud bob diwrnod. Rwy'n teimlo mai dyma yw fy swydd."
Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, "Rydym yn deall pwysigrwydd lles staff, ac mae'r tîm wedi dweud bod Amber a Samantha yn enghreifftiau gwych o sut gall rheolwyr gefnogi staff.
"Rwyf wedi cael gwybod bod Amber a Sam yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod staff dan eu harweiniad yn cael eu cefnogi, ac yn gallu datblygu yn eu rolau. Da iawn i'r ddwy ohonynt."
Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr