Gwnewch yn siŵr eich bod wedi’ch amddiffyn rhag clefydau y mae modd brechu yn eu herbyn
Dydd Llun, 29 Ebrill 2019
Mae unigolion ar draws Gogledd Cymru’n cael eu hatgoffa am bwysigrwydd sicrhau eu bod yn cael eu brechu er mwyn amddiffyn eu hunain rhag clefydau difrifol posibl.
Daw’r nodyn atgoffa fel rhan o ymdrech codi ymwybyddiaeth gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i gefnogi Wythnos Ewropeaidd Imiwneiddio, sy’n cael ei chynnal o 23 i 30 Ebrill.
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus BIPBC: “Diolch i frechiadau, mae’r rhan fwyaf o bobl yn awr wedi’u hamddiffyn rhag clefydau megis y frech goch, rwbela, clwy’r pennau, difftheria, tetanws a pholio. Er gwaethaf hyn, rydym yn ddiweddar wedi gweld cynnydd mewn achosion o’r frech goch ar draws y byd.
“Felly fel rhan o Wythnos Ewropeaidd Imiwneiddio rydym eisiau atgoffa pobl am bwysigrwydd cael eich brechu. Yn benodol, byddem yn annog rhieni i sicrhau bod brechiadau eu plant yn gyfredol. Mae gan bob plentyn yr hawl i gael eu hamddiffyn rhan clefydau y mae modd brechu yn eu herbyn.”
Yn ystod yr wythnos, bydd staff imiwneiddio yn adnewyddu’r wybodaeth sydd ar gael i bobl ar safleoedd y Bwrdd Iechyd ar draws Gogledd Cymru ac yn codi ymwybyddiaeth ymysg staff, cleifion ac ymwelwyr.
Dylai rhieni sydd ag ymholiadau ar unrhyw agwedd ar frechiadau eu plentyn eu trafod gyda’u Meddyg Teulu, Ymwelydd Iechyd neu Nyrs Practis.
Gweler mwy o wybodaeth ar www.nhsdirect.wales.nhs.uk/LiveWell/vaccinations
Ffynhonnell: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr