Wythnos Genedlaethol Gordewdra Plentyndod 1-7 Gorffennaf 2019
Dydd Sul, 7 Gorffenaf 2019
Wythnos Genedlaethol Gordewdra Plentyndod 1-7 Gorffennaf 2019
Ymunodd elusen flaenllaw ar gyfer gordewdra (y National Obesity Forum) gyda menter gymdeithasol (MEND sy’n darparu rhaglenni byw yn iach ar ôl ysgol i deuluoedd) gan lansio'r wythnos ymwybyddiaeth gyntaf erioed yn y DU o faterion gordewdra plant yn ôl yn 2011.
Mae Gordewdra Plentyndod yn epidemig iechyd difrifol iawn sy’n wynebu ein cymdeithas ni heddiw gydag 1 o bob 3 phlentyn yn or-dew neu dros ei bwysau yn y DU.
Mae’r holl ordewdra mewn plentyndod yn bryder mawr yng Nghymru, sydd â lefelau uwch o ordewdra na holl ranbarthau Lloegr gyda 26.4% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n or-dew, o gymharu â 22.4% yn Lloegr a’r Alban yn y grŵp oedran hwn.
Nod y cynghorion doeth yma yw annog teuluoedd i’w cynnwys yn eu bywydau bob dydd i’w helpu i fod yn iachach ac yn fwy heini.
1. Ceisiwch gerdded am 20 munud ychwanegol bob dydd a byddwch yn cerdded am ddwy awr bob wythnos!
2. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cael eich pump y dydd drwy eich herio eich hun i gynnwys o leiaf un dogn o ffrwythau neu lysiau gyda phob un o'ch prydau bwyd a’ch byrbrydau.
3. Rhowch gynnig ar un gweithgaredd neu ymarfer newydd yr wythnos yma, fel dawnsio stryd, trampolinio, sgiliau syrcas, tennis neu grefftau ymladd ac efallai y gwelwch chi eich bod eisiau dal ati!
4. Dechreuwch y diwrnod fel rydych yn bwriadu dal ati gyda brecwast iach i’ch llenwi chi! Gwnewch y dewis iawn a chyfnewid eich grawnfwyd isel mewn ffeibr neu eich tost am opsiwn grawn cyflawn fel tost grawn cyflawn neu muesli dim siwgr wedi'i ychwanegu, ceirch uwd neu Shredded Wheat.
5. Mae sudd ffrwythau’n gallu cynnwys llawer o siwgr felly mae’n dda ei yfed yn gymedrol. Ceisiwch gyfyngu faint rydych chi’n ei yfed i uchafswm o un cwpan neu garton bychan (200ml) y dydd.
6. Rydyn ni’n gwybod bod dŵr yn eich hydradu chi ond hefyd mae astudiaethau wedi dangos bod plant yn canolbwyntio’n well yn yr ysgol wrth yfed mwy o ddŵr, felly byddwch yn ddoeth a cheisio yfed 6 i 8 cwpan y dydd.