Nid yw'r glasoed yng Nghymru yn bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol – dadansoddiad wedi'i ddiweddaru
Dydd Mercher, 22 Ionawr 2020
Dim ond 18 y cant o'r glasoed yng Nghymru sy'n cael y swm o weithgarwch corfforol a argymhellir, yn ôl dadansoddiad wedi'i ddiweddaru ar gyfer offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus (PHOF).
Mae canllawiau gweithgarwch corfforol y DU yn dweud y dylai plant a phobl ifanc geisio cael 60 munud y dydd ar gyfartaledd drwy'r wythnos. Dywedodd 82 y cant o bobl ifanc 11 i 16 oed eu bod yn gwneud llai ar hyn o bryd.
Meddai Susan Mably, Ymgynghorydd mewn Iechyd y Cyhoedd gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r data yn cadarnhau i ni, fel llawer o rannau eraill o'r byd, nad yw pobl ifanc yng Nghymru mor gorfforol egnïol ag y byddem yn ei argymell, sy'n golygu eu bod yn colli'r manteision niferus cysylltiedig i iechyd a llesiant.
“Mae'n amlwg ein bod i gyd yn treulio gormod o'n hamser yn segur. Yn wyneb yr her hon mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a Chwaraeon Cymru i ddod o hyd i ffyrdd y gallwn greu cyfleoedd i bobl ifanc fod yn gorfforol egnïol yn eu bywydau bob dydd, boed hynny drwy gerdded, beicio neu ddefnyddio sgwter i gyrraedd yr ysgol, cyflwyno gweithgarwch fel rhan o drefn bob diwrnod ysgol neu annog cyfranogiad mewn gweithgareddau hamdden awyr agored.”
Meddai Caryn Cox, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd:
"Mae'r diweddariad hwn yn rhoi tystiolaeth werthfawr i wneuthurwyr polisi i'w helpu i ddeall yr effaith y mae ein hymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.”
Mae canfyddiadau allweddol eraill yn y dadansoddiad yn cynnwys:
• Mae 8 y cant o bobl ifanc 11 i 16 oed yn dweud eu bod yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos, gan godi i 11 y cant mewn rhai rhannau o Gymru
• Mae 18 y cant o bobl ifanc 11 i 16 oed yn yfed diodydd â siwgr unwaith y dydd neu fwy, gyda'r ffigur yn codi i 22 y cant mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi offeryn adrodd y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus i olrhain iechyd a llesiant y genedl. Mae'r offeryn yn cyflwyno data ar 40 o ddangosyddion allweddol o'r Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus a gafodd ei lansio gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2016.
Cafodd y fframwaith hwn ei ddatblygu er mwyn helpu i ddeall yr effaith y mae ein hymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.