Llinell gymorth iechyd meddwl yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed drwy annog y rheiny sydd wedi cael eu heffeithio gan COVID-19 i ofyn am gefnogaeth
Dydd Gwener, 10 Ebrill 2020
Mae staff llinell gymorth iechyd meddwl Gogledd Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed drwy ofyn i bobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl yn ystod yr argyfwng COVID-19 i ofyn am gefnogaeth.
Dros y chwarter canrif diwethaf, mae staff a gwirfoddolwyr y Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru CALL, sydd wedi’i leoli yn Wrecsam, wedi rhoi cefnogaeth i bron hanner miliwn o bobl. Gan gofio y bydd yr argyfwng COVID-19 yn debygol o gael effaith sylweddol ar iechyd meddwl unigolion – nid yw gwasanaeth y llinell gymorth erioed wedi bod mor hanfodol.
Gan fod y Llinell Gymorth CALL yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed yr wythnos hon, mae’r Rheolwr, Luke Ogden yn annog pobl ar draws Cymru sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl i ofyn am gefnogaeth.
Dywedodd: “Gwyddom yn ystod yr argyfwng COVID-19 y bydd cynnydd yn nifer y bobl sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl am amryw o resymau. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn teimlo fel petaent wedi’u hynysu o’r rhwydwaith cefnogi sydd ganddynt gan deulu a ffrindiau; yn poeni am eu harian neu os oes ganddynt swydd i’w fynd yn ôl ati; neu os ydynt yn cael trafferth addasu i fywyd dan waharddiad symudiad COVID-19.
“Rydym yn barod wedi gweld cynnydd yy nifer y galwadau i’r llinell gymorth ond rydym eisiau i fwy o bobl ar draws Cymru wybod, os ydynt yn cael trafferthion - byddwn bob amser yma i roi cefnogaeth iddynt. Yn union fel yr ydym wedi bod dros y 25 mlynedd diwethaf.”
Sefydlwyd y Llinell Gymorth CALL yr wythnos hon 25 mlynedd yn ôl. Caiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dros y chwarter canrif diwethaf mae’r llinell gymorth wedi cefnogi hanner miliwn o bobl ar draws Cymru sy’n cael trafferth gydag ystod o broblemau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
Yn ogystal â darparu llinell gymorth sydd ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, mae gwefan Llinell Gymorth CALL yn rhoi cyfeiriadur cynhwysfawr o gefnogaeth iechyd meddwl lleol a chenedlaethol. Mae staff CALL hefyd yn rhoi cyngor a chefnogaeth emosiynol dros y cyfryngau cymdeithasol a neges destun, i’r rheiny sy’n teimlo’n anghyfforddus neu nad ydynt yn gallu siarad trwy eu problemau.
“Gweithredwyr y llinell gymorth yw asgwrn cefn y gwasanaeth hanfodol hwn ac nid yw’n ormodiaith dweud eu bod yn achub bywydau” eglurodd Luke.
“Rydym hefyd yn helpu i liniaru’r pwysau ar gydweithwyr y Gwasanaethau Brys drwy gefnogi pobl sydd wedi ffonio 999 neu 101 gan fod angen cefnogaeth emosiynol arnynt heb wybod at bwy i droi.
“Ein moto yw ‘mae rhannu problem yn haneru problem’ ac rydym eisiau i bobl wybod ein bod yma i’w cefnogi yn ystod yr wythnosau a’r misoedd anodd sydd o’n blaen.”
Mae Llinell Gymorth CALL ar gael 24/7, 365 dydd y flwyddyn.
Ffoniwch y Rhadffôn 0800 132737
Tecstiwch Help i 81066
Ewch ar http://www.callhelpline.org.uk/