Gwahoddiad i blant gael eu sgrinio - galwad newydd gan Ymarfer Sgrinio TB Cymunedol Llwynhendy

Dydd Llun, 9 Rhagfyr 2019

Diogelu'r cyhoedd rhag heintiau a bygythiadau amgylcheddol i iechyd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn unwaith eto i bobl sy’n byw yn ardal Llwynhendy yn Sir Gaerfyrddin, a allai fod wedi dod i gysylltiad â chlefyd TB, i ddod ymlaen i gael eu sgrinio.  

Yr alwad ddiweddaraf hon yw’r cam nesaf yn y rhaglen sgrinio gymunedol barhaus, ac mae wedi cael ei hymestyn yn benodol i gynnwys plant a phobl ifanc a allai fod wedi dod i gysylltiad ag achosion o TB mewn lleoliadau penodol yn y gymuned leol. 

Yn y gorffennol, dim ond oedolion sydd wedi cael gwahoddiad i gael eu sgrinio. Er hynny, mae pob plentyn a ddaeth i gael ei sgrinio wedi cael prawf hefyd. Felly, caiff rhieni a gofalwyr eu hannog i wirio a yw eu plant yn gymwys i gael eu sgrinio.

Mae’r rhai sy’n cael eu hannog i gael eu sgrinio y tro hwn yn cynnwys:
•    Cwsmeriaid a gweithwyr tŷ tafarn y Joiners Arms yn Llwynhendy rhwng 2005 a 2018, nad ydynt wedi cael eu hadnabod cyn hyn fel rhywun sydd â chysylltiad â rhywun ag achos o TB actif. Mae hyn bellach yn cynnwys unrhyw blant a phobl ifanc a allai fod wedi ymweld â’r dafarn â theulu neu ffrindiau ac a allai fod wedi dod i gysylltiad o bosibl ag achos actif o TB.
•    Unigolion o bob oed sydd wedi bod yn yr un ystafell â rhywun sydd ag achos o TB actif, o fewn pedwar mis cyn i’r unigolyn â TB gael diagnosis a thriniaeth.

Gofynnir i rieni neu ofalwyr ffonio llinell gyswllt bwrpasol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 02920 827 627 cyn dydd Gwener, 13 Rhagfyr 2019 os ydynt yn credu bod eu plant yn gymwys i gael eu sgrinio.

Bydd y llinell gyswllt ar agor rhwng 10am a 4pm yn ystod yr wythnos o ddydd Mawrth, 3 Rhagfyr tan ddydd Gwener, 13 Rhagfyr. 

Dylai oedolion sy’n credu eu bod yn gymwys gysylltu ar y rhif hwn hefyd, os nad ydynt wedi cael eu sgrinio fel rhan o’r ymarfer hwn yn barod. 

Dywedodd Dr Brendan Mason, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Er nad ydyn ni wedi cyhoeddi galwad benodol i blant ddod i gael eu sgrinio o'r blaen, rydyn ni wedi sgrinio tua 200 o blant fel rhan o’r ymarfer hwn yn barod.

“Mae nifer bychan ond arwyddocaol o achosion o haint TB cudd wedi’i ganfod yn y plant hyn, felly rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod ni’n sgrinio plant eraill y gallai’r haint hwn fod wedi effeithio arnyn nhw yn yr ardal hefyd.” 

Bydd apwyntiadau ar gyfer sgrinio yn cael eu hanfon yn y man. Bydd y sgrinio ar gyfer plant a phobl ifanc cymwys yn cychwyn cyn y Nadolig ac yn para hyd at ddechrau 2020.

Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae rheoli’r achos hwn yn flaenoriaeth i’r bwrdd iechyd, a hoffem annog y rhai hynny sy’n credu eu bod nhw’n bodloni'r meini prawf ar gyfer sgrinio i gysylltu â ni - yn enwedig rheini neu ofalwyr plant.

“Rydyn ni’n deall bod yr adeg yma o’r flwyddyn yn gallu bod yn amser prysur iawn i nifer o bobl, ond da chi, peidiwch â gadael i hynny eich atal chi rhag gwneud ymholiadau drwy ffonio’r llinell gyswllt bwrpasol.

“Mae ein gwasanaethau’n gweithio’n galed i sicrhau bod y gwaith sgrinio a’r gofal dilynol ar gyfer plant yn broses mor gyflym a rhwydd â phosib.”

Mae’r ymarfer sgrinio hwn yn cael ei gynnal er mwyn ceisio rheoli achos parhaus o TB y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi bod yn ei fonitro, yn ymchwilio iddo ac yn cymryd camau i’w reoli yn Llwynhendy ers tro.

Nod yr ymarfer yw canfod achosion o TB actif a chudd ymhlith poblogaeth Llwynhendy er mwyn i’r unigolion y mae TB wedi effeithio arnynt ddechrau cael triniaeth. 

Nid oes unrhyw achos o glefyd TB actif wedi’i ganfod drwy’r ymarfer sgrinio cymunedol hyd yma. Fodd bynnag, mae 204 o achosion o glefyd TB cudd wedi’u canfod. 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i adolygu’r canfyddiadau er mwyn penderfynu a oes gofyn cymryd unrhyw gamau ychwanegol er mwyn ceisio rheoli’r achos. 

Mae TB yn anghyffredin yng Nghymru ac yn y DU gyfan. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei hysbysu am tua 100 o achosion o TB bob blwyddyn. Mae Cymru yn parhau i gael y gyfradd isaf o dwbercwlosis fesul 100,000 o'r boblogaeth o gymharu â rhanbarthau eraill y DU.