Brechlyn Feirws Papiloma Dynol i fechgyn i atal canser yng Nghymru
Dydd Mercher, 10 Gorffenaf 2019
O flwyddyn academaidd 2019/20 ymlaen, caiff bechgyn 12-13 oed gynnig y brechlyn Feirws Papiloma Dynol (HPV) yn yr ysgol ynghyd â merched fel rhan o'r rhaglen HPV bresennol.
Mae'r brechlyn HPV wedi cael ei gynnig i ferched 12-13 oed ym mlwyddyn 8 yr ysgol ers 2008.
Caiff y brechlyn ei gynnig ym mhob ysgol yng Nghymru o dymor y gwanwyn a thymor yr haf 2020.
Meddai Dr Frank Atherton, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru: “Rwy'n falch iawn y bydd y rhaglen brechu HPV i fechgyn yn dechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd y brechlyn nid yn unig yn diogelu bechgyn rhag clefydau sy'n gysylltiedig â HPV – fel canser y geg, y gwddf a chanser yr anws – ond bydd hefyd yn helpu i leihau nifer cyffredinol y canserau ceg y groth mewn menywod, drwy wella ‘imiwnedd y boblogaeth’.
“Mae astudiaeth ddiweddar wedi dangos bod tystiolaeth gymhellol o effaith sylweddol rhaglenni brechu HPV ar heintiau HPV a thwf cyn-ganseraidd ymhlith merched, menywod, bechgyn a dynion. Rwy'n gobeithio y bydd rhieni'r holl fechgyn a merched cymwys yn manteisio ar y cynnig i gael y brechlyn hwn sy'n achub bywyd.”
Meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Credir bod HPV yn gyfrifol am dros 90 y cant o ganserau ceg y groth, yn ogystal â 90 y cant o ganserau'r anws, tua 70 y cant o ganserau'r wain a'r vulvar a mwy na 60 y cant o ganserau pidynnol.”
“Mae'r brechlyn HPV wedi'i roi i fwy na 10 miliwn o fenywod ifanc yn y DU a thros 80 miliwn dos ledled y byd.”
Ceir rhagor o wybodaeth am HPV ar wefan Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: