Am Hywel Dda
Hywel Dda, y lle a'r bobl:
I grynhoi – yn gyffredinol mae gan bobl sy'n byw yn yr ardal a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd y Brifysgol ffyrdd iachach o fyw nag sy'n gyffredin ledled Cymru, ac mae iechyd ein poblogaeth yn gwella ar y cyfan, ond mae gormod o farwolaethau y gellir eu hosgoi a chyflyrau ataliadwy o hyd. Felly mae heriau lleol i fynd i'r afael â nhw o hyd. Er enghraifft, mae cyfradd ychydig yn uwch o oedolion yn yfed mwy o alcohol na'r hyn a argymhellir yn y canllawiau ac yn goryfed mewn pyliau yng Ngheredigion, tra bod Sir Penfro a Sir Gaerfyrddin yn nodi cyfraddau gordewdra uwch na chyfartaledd Cymru. Mae hyn er gwaethaf cyfraddau gwell na Chymru ar gyfer lefelau gweithgarwch corfforol a bwyta ffrwythau a llysiau.
GBCG yn Hywel Dda:
Roedd tîm iechyd cyhoeddus lleol Hywel Dda mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd y Brifysgol yn fabwysiadwyr cynnar o 'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif' ac mae ganddo ymrwymiad hirsefydlog i helpu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol i 'Wneud i Bob Cyswllt Gyfrif' gyda chleifion a chydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys galluogi staff i ddatblygu'r sgiliau, y ddealltwriaeth a'r hyder i hyrwyddo lles ac annog newid ymddygiad ffordd o fyw ar bob cyfle priodol. Mae agenda GBCG o fewn Hywel Dda yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn parhau i gael ei datblygu a'i llywio drwy werthuso1-2. Yn benodol, mae'r dull 'Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif' yn cyfrannu at amcan strategol 1 Bwrdd Iechyd y Brifysgol (annog a chefnogi pobl i wneud dewisiadau iachach iddynt hwy a'u plant a lleihau nifer y bobl sy'n cymryd risgiau) ac amcan strategol 2 (lleihau nifer y bobl sydd dros bwysau a gordewdra yn ein poblogaeth leol).
Rydym yn parhau i hyrwyddo a datblygu ein gweithgareddau newid ymddygiad a Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif, yn enwedig gyda chydweithwyr sy'n gweithio ym meysydd Gofal Sylfaenol a Blynyddoedd Cynnar.
Cyflwyno GBCG yn Hywel Dda:
Cyflwynir hyfforddiant Ymyriadau Byr lefel 2 wyneb yn wyneb gan y tîm iechyd cyhoeddus lleol i weithwyr iechyd proffesiynol sydd â'r cyfle priodol a rheolaidd i 'Wneud i Bob Cyswllt Gyfrif' gyda chleifion a chleientiaid. Ar hyn o bryd mae dwy brif raglen gyflwyno:
Prosiect Eiriolwyr Ffordd o Fyw
Caiff unigolion brwdfrydig o feddygfeydd a fferyllfeydd [yn bennaf] eu recriwtio i gymryd rhan mewn rhaglen ddatblygu i ymgorffori ffordd iach o fyw ac ethos atal ac ymarfer o fewn eu lleoliad. Mae'r rhaglen yn cynnwys cyflwyno hyfforddiant ymyriadau byr lefel 2 a meithrin cysylltiadau â gwasanaethau a grwpiau cymorth ffordd o fyw lleol yn y gymuned leol.
- Wood V a Scale I. Evaluation of the ‘Talking with Clients and Patients about Healthy Lifestyles’ brief advice training programme. Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda, 2015.
- Evans R., Hancock, L. Jones, G., Nichols, C., Scale, I. a Wood, V. Evaluation of the ‘Lifestyle Advocates: Promoting Health in Practice’ project 2015/2016: an approach to population health in partnership with public health and primary care. Tîm Iechyd Cyhoeddus Hywel Dda, 2016.
Blynyddoedd Cynnar
Rydym yn cefnogi Bydwragedd, Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys Iechyd Ysgolion yn eu rôl yn hyrwyddo ymddygiadau ffordd iach o fyw drwy ddarparu Hyfforddiant Ymyriadau Byr Lefel 2.
(Oherwydd gallu cyfyngedig ni allwn gyflwyno hyfforddiant i gynulleidfa ehangach ar hyn o bryd).
Cyswllt lleol:
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu drafod hyfforddiant cyfredol cysylltwch â:
Geinor.jones@wales.nhs.uk neu ffoniwch 01970 613 904