Am Caerdydd a'r Fro
Ein poblogaeth:
Mae poblogaeth Caerdydd a'r Fro yn tyfu'n gyflym mewn maint. Rhagwelir y bydd yn cynyddu 10% rhwng 2015-25, sy'n sylweddol uwch na'r twf ar gyfartaledd ledled Cymru a gweddill y DU. Bydd 50,000 o bobl ychwanegol yn byw yng Nghaerdydd a'r Fro a bydd angen mynediad at wasanaethau iechyd a lles arnynt.
Mae poblogaeth Caerdydd a'r Fro yn gymharol ifanc o gymharu â gweddill Cymru, gyda chyfran babanod (0-4 oed) a'r boblogaeth o oedran gweithio traddodiadol (17-64) yn uwch na chyfartaledd Cymru; fodd bynnag mae nifer y bobl dros 85 oed yn cynyddu lawer yn gyflymach na gweddill y boblogaeth (cynnydd o 32.4% rhwng 2015-25).
Mae'r boblogaeth yn amrywiol iawn o ran ethnigrwydd, yn enwedig o gymharu â llawer o weddill Cymru, gydag amrywiaeth eang o gefndiroedd diwylliannol ac ieithoedd a siaredir.
Mae ymddygiadau nad ydynt yn iach sy'n cynyddu'r risg o afiechyd yn endemig ymhlith oedolion yng Nghaerdydd a'r Fro:
- Mae bron hanner (44-45%) yn yfed mwy na'r hyn a argymhellir yn y canllawiau ar alcohol
- Nid yw bron ddwy ran o dair (66-67%) yn bwyta digon o ffrwythau a llysiau
- Mae dros hanner (55-57%) dros bwysau neu'n ordew. Mae hyn yn cynyddu i ddwy ran o dair (64%) ymhlith pobl rhwng 45 a 64 oed
- Nid yw tua thri chwarter (75-75%) yn cael digon o weithgarwch corfforol
- Mae bron un o bob pump (18%) yn ysmygu
- Nid yw dwy ran o dair (66%) o'r rhai o dan 16 oed yn cael digon i weithgarwch corfforol ac mae bron draean (31%) o'r rhai dan 16 oed dros bwysau neu'n ordew
Mae anghydraddoldebau amlwg o ran deilliannau iechyd yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae disgwyliad oes i ddynion bron 12 mlynedd yn is yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r rheini yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae nifer y blynyddoedd o fywyd iach yn amrywio hyd yn oed yn fwy, gyda bwlch o 22 mlynedd rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig. Mae cyfraddau marwolaeth cynamserol bron deir gwaith yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae'r proffil afiechyd yng Nghaerdydd a'r Fro yn newid: Mae nifer y bobl sydd â dau gyflwr hirdymor neu fwy wedi cynyddu tua 5,000 yn y ddegawd ddiwethaf a disgwylir i'r duedd hon barhau. O ganlyniad i newidiadau ym mhroffil oed y boblogaeth a ffactorau risg ar gyfer afiechyd, mae diagnosisau newydd ar gyfer cyflyrau megis diabetes a dementia yn cynyddu'n sylweddol. Clefyd y galon, canser yr ysgyfaint ac afiechyd ymenyddol-fasgwlaidd yw'r prif achosion o farwolaeth ymhlith dynion a menywod. Gellir osgoi llawer (ond nid pob un) o'r cyflyrau hirdymor mwyaf cyffredin ac achosion o farwolaeth drwy wneud newidiadau mewn ymddygiadau sy'n ymwneud ag iechyd.
GBCG yng Nghaerdydd a'r Fro:
Mae GBCG yn ddull o ymgorffori mesurau atal mewn rhyngweithiadau bob dydd sydd â'r nod o rymuso staff i drafod materion ffordd o fyw yn briodol ac yn hyderus ac atgyfeirio at gymorth priodol. Yng Nghaerdydd a'r Fro, cynigiwyd hyfforddiant GBCG ers 2012 ac mae wedi cael ei gyflwyno i staff o wasanaethau iechyd, awdurdodau lleol, trydydd sector ac yn ehangach mewn sefydliadau partneriaeth. Ein ffocws ar gyfer 2017/18 yw ymgorffori'r dull ymhellach o fewn gwasanaethau iechyd.
Tystlythyrau GBCG:
"Roeddem i gyd o'r farn bod yr hyfforddiant GBCG yn wych. Fe siaradon ni fel grŵp am y syniad o ofyn am 'ganiatâd' i sôn am ffactorau ffordd o fyw. Er enghraifft, 'A oes ots gyda chi os byddwn ni'n siarad am eich pwysau?' Rwy'n gwybod bod rhai pobl yn ein tîm wedi defnyddio'r strategaeth hon ac o'r farn ei bod yn ffordd ddefnyddiol o ddechrau sgwrs iachus.
Roedd yr hyfforddiant yn atgyfnerthu pwysigrwydd mynd i'r afael â'r pynciau iechyd yn gyson. I rhai o'r staff iau, rhoddodd yr hyfforddiant fwy o hyder iddynt o ran dechrau sgyrsiau yn y meysydd hyn."
Huw Griffiths, Ffisiotherapydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
"Mae mor bwysig i ni drafod ffactorau ffordd o fyw allweddol gyda'n cleifion. Rydym yn aml yn siarad â nhw am ysmygu a cholli pwysau, gan ei fod yn hanfodol iddynt edrych ar ôl eu hunain, yn enwedig gyda'u problemau iechyd cyfredol."
Bethan Shiers, Nyrs Arbenigol Clefyd y Galon Cynhenid Oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
GBCG yn y newyddion:
Yng Nghaerdydd a'r Fro, rydym yn rhagweithiol wrth gynhyrchu straeon newyddion i godi ymwybyddiaeth am ffactorau risg ffordd o fyw. Mae astudiaethau achos am bynciau iechyd yn ymwneud â GBCG wedi bod yn boblogaidd ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol.
'UHB launches staff Health and Well-being calendar for 2017' - http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/news/43683
'Cardiff woman who had 16 operations urges others to quit smoking before surgery' - http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/news/42758
'Cardiff mum warns of diabetes danger' - http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/news/41713
'Cardiff doctor makes animated film to help patients quit smoking before surgery' - http://www.walesonline.co.uk/news/health/cardiff-doctor-makes-animated-film-11798272
'A cyclist from Cardiff who was hospitalised with severe flu is urging others to have their flu jab' - http://www.walesonline.co.uk/news/health/cyclist-cardiff-who-hospitalised-severe-12070379
'Children in Cardiff and the Vale are getting protected against flu' - http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/news/43228
'Mums-to-be in Cardiff and the Vale are protecting their bumps from flu' - http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/news/43341
'Staff at Wales’ biggest hospital reveal how flu is impacting wards' - http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/news/43834
Rydym yn cyhoeddi cylchlythyr bob chwarter sy'n cael ei anfon at ein rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl sydd wedi ymgysylltu â sesiynau hyfforddiant GBCG:
Cylchlythyr GBCG Medi 2016: http://us8.campaign-archive2.com/?u=470742f101e93d55cec401632&id=e1c7343379&e=01c6c33b44
Cylchlythyr GBCG Ionawr 2017: http://us8.campaign-archive1.com/?u=470742f101e93d55cec401632&id=0e1775812d&e=01c6c33b44
Mae ein gwefan GBCG hefyd yn cynnwys adnoddau defnyddiol er mwyn helpu pobl i gael sgyrsiau am ffactorau risg ffordd o fyw: http://www.billcaerdyddarfro.cymru.nhs.uk/gwneud-i-bob-cyswllt-gyfrif/
I gael rhagor o wybodaeth am GBCG yng Nghaerdydd a'r Fro, cysylltwch â Dr Sian Griffiths:
E: sian.griffiths6@wales.nhs.uk
Ffôn: 029 20336201
Canllw gweithgarwch corfforol PHW Physical Activity (CVUHB).pdf