Pobl ifanc i elwa o Adnodd Iechyd a Lles ar-lein

Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019

Bydd pobl ifanc yng Ngwent elwa o Adnodd Iechyd a Lles newydd ar-lein.

Anelir yr adnodd at y rheiny sy’n cyflwyno negeseuon iechyd y cyhoedd allweddol i blant a phobl ifanc. Mae hefyd yn cynnig gwybodaeth ymarferol a chynlluniau gwersi ar y pynciau canlynol:

  • Bwyd a ffitrwydd
  • Lles emosiynol
  • Iechyd rhywiol
  • Smygu
  • Alcohol
  • Cyffuriau
  • Imiwneiddio

Mae gweithwyr ieuenctid, athrawon a staff eraill mewn ysgolion mewn sefyllfa ddelfrydol i drafod iechyd a lles gyda’r bobl ifanc y maen nhw’n gweithio gyda nhw bob dydd. Mae’r adnodd hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r gefnogaeth i staff drafod y pynciau hyn gyda phobl ifanc ac i’w galluogi i wneud y penderfyniadau gorau am eu hiechyd.

Lluniwyd y pecyn cymorth gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Gwent Aneurin Bevan ar y cyd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gweithio gyda phobl ifanc.

Dywedodd Paul O’Neill, Uwch Reolwr Gwaith Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:

“Bydd yr adnodd cynhwysfawr ar-lein hwn yn rhoi cefnogaeth hawdd ei chael i weithwyr ieuenctid wrth gyflwyno gweithgareddau’n ymwneud â iechyd i blant a phobl ifanc.

“Mae gweithwyr ieuenctid wedi’u cyffroi gyda’r syniad o’r adnodd hwn fydd yn rhoi’r wybodaeth berthnasol am y pynciau a hefyd syniadau ar gyfer cyflwyno gwahanol fathau o weithgareddau.”

Mae ein hymddygiadau fel pobl ifanc yn llunio ein hymddygiad fel oedolion. Mae ymddygiadau sy’n creu risg i’n hiechyd fel maethiad gwael, ysmygu ac yfed alcohol yn eithafol yn gyfrifol am gyfrannu at y nifer cynyddol o glefydau anhrosglwyddadwy fel canser, clefyd y galon a diabetes math 2 yng Nghymru. 

Dywedodd Mererid Bowley, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd:

“Bydd yr adnodd hwn yn sicrhau gwybodaeth hawdd ei chael i’r rhai sy’n cyflwyno addysg iechyd i blant a phobl ifanc ar draws Gwent.

“Mae’n cynnig cyfle i’r bobl hynny sy’n cyflwyno addysg iechyd i annog pobl ifanc i gymryd cyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain ac i leihau ymddygiadau peryglus.”

Gellir cael yr adnodd ar-lein ar www.iechydcyhoedduscymru.org/iechyd-lles-pobl-ifanc

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru