Gweithwyr y GIG mae hwn i chi
Bydd y ddolen isod yn mynd â chi yn syth i’ch cwrs GBCG yn y Cofnod Staff Electronig (ESR). Y cyfan y bydd yn rhaid i chi ei wneud fydd mewngofnodi ar eich ffordd yno.
Ymarferwyr iechyd annibynnol a chydweithwyr eraill o’r sector cyhoeddus yn ehangach
Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i’r cwrs GBCG os nad oes modd ichi fynd ato drwy ESR neu learning@wales
Gweithywr y sector cyhoeddus (ac eithrio'r GIG) mae hwn i chi
Bydd y ddolen isod yn mynd â chi yn syth i’ch cwrs GBCG ar wefan Learning@Wales. Bydd rhaid i chi fewngofnodi ar eich ffordd yno (peidiwch ag anghofio rhoi eich allwedd
cofrestru)
Fel arall, cliciwch yma i gofrestru
Ydych chi am ddod â’ch tanysgrifiad i ben?
Os ydych wedi cofrestru o’r blaen ar gyfer y cwrs e-ddysgu ond wedi penderfynu nad ydych am gael eich cofrestru mwyach, cofiwch roi gwybod i ni.
Hyfforddiant GBCG
Dydy pawb ddim yn ei chael yn hawdd codi cwestiynau am ymddygiadau ffordd o fyw. I wneud i bob cyfle gyfrif, mae angen ystod eang o sgiliau a gwybodaeth ar staff er mwyn iddynt fagu’r hyder sydd ei angen arnynt i gynorthwyo ac i gyfeirio pobl. Mae’r adnoddau hyfforddiant yn rhan allweddol o raglen GBCG.
Bydd llwyddiant ein rhaglen GBCG yn dibynnu ar ansawdd yr hyfforddiant ac ar gynnal cymhwysedd a hyder y staff i rannu’r prif negeseuon a’r wybodaeth â’r cyhoedd. Bydd hefyd yn bwysig bod y rheini sy’n cyflawni GBCG yn gallu cyfeirio pobl at y gwasanaethau lleol mwyaf priodol a hwyluso’r broses o ddod i gysylltiad â’r gwasanaethau hyn lle bo modd.