Gwybodaeth ffordd o fyw

Gweithgarwch Corfforol

Prif buddiannau

Mae bod yn egnïol yn gorfforol yn helpu i gynnal lles corfforol a meddyliol, ac yn atal clefydau. Gall leihau'r risg o lawer o gyflyrau cronig, fel clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes math 2, canser, gordewdra, problemau iechyd meddwl a chyflyrau cyhyrsgerbybol. Dyma'r "cyffur arbennig" yr hoffai'r GIG ei ragnodi i bawb. Mae ffigurau WHO Mae ffigurau Sefydliad Iechyd y Byd yn dangos bod anweithgarwch corfforol yn cyfrif am 9% o farwolaethau cyn amser yn ôl amcangyfrif. Mae'r wefan Benefit from Activity  yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr i gleifion am fuddiannau eang bod yn egnïol, ac mae'r adnodd Motivate2Move yn gyfeirbwynt rhagorol ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol mewn perthynas â gweithgarwch corfforol.

Yr argymhellion

Mae argymhellion y Prif Swyddog Meddygol yn nodi y dylai oedolion anelu at weithgarwch corfforol bob dydd. Dros wythnos, dylai'r gweithgarwch wneud cyfanswm o 150 munud (2½ awr) o leiaf o weithgarwch cymharol ddwys mewn cyfnodau o 10 munud neu fwy, a dylai pawb leihau faint o amser sy'n cael ei dreulio'n eistedd neu'n bod yn anweithgar.

Sefyllfa bresennol

Mae data o Arolwg Cenedlaethol Cymru  yn 2017 yn awgrymu bod 54% o'r boblogaeth yng Nghymru yn cyflawni'r lefelau hyn ar hyn o bryd, ond mae 30% yn anweithgar o hyd – yn cwblhau llai na 30 munud o weithgarwch corfforol bob wythnos.  Mae Gwella Iechyd yn gweithio gyda rhanddeiliaid cenedlaethol i sefydlu cyfres o ddangosyddion gan ddefnyddio data o'r Arolwg Cenedlaethol newydd i fonitro newidiadau yn y dyfodol. 

Beth mae anweithgarwch corfforol yn costio?

GIG Cymru - PHW Physical Activity (Wales).pdf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - PHW Physical Activity (ABMUHB).pdf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - PHW Physical Activity (ABUHB).pdf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - PHW Physical Activity (BCUHB).pdf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf - PHW Physical Activity (CTUHB).pdf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro - PHW Physical Activity (CVUHB).pdf

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - PHW Physical Activity (HDdUHB).pdf

Bwrdd Addysgu Iechyd Powys - PHW Physical Activity (PTHB).pdf

Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff [ http://www.wlga.gov.uk/ners ] a arweiniwyd gan Gwella Iechyd a'i gyflwyno gan CLlLC, yn effeithiol o ran cynyddu lefelau gweithgarwch ar gyfer grwpiau poblogaeth sy'n fwy arbenigol, megis y rheini sydd â phwysedd gwaed uchel neu ddiabetes.

Ymarfer corff i fenywod beichiog

Adult InfoG Welsh.pdf