Am Cwm Taf
Drwy roi Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif (MECC) ar waith yng Nghwm Taf, mae’n helpu i gynyddu nifer y sgyrsiau iach sy’n digwydd rhwng y gweithlu a’r boblogaeth leol.
Drwy fanteisio ar y sgyrsiau sy’n digwydd bob dydd rhwng y rheini sy’n byw ac yn gweithio yng Nghwm Taf, mae MECC yn helpu i annog, i gynorthwyo ac i rymuso trigolion Cwm Taf i newid eu ffordd o fyw.
Nod y gwaith MECC yng Nghwm Taf yw:
* Meithrin gwybodaeth, sgiliau a hyder y staff i’w grymuso i gael sgyrsiau iach
* Galluogi’r staff i gael sgyrsiau iach drwy ystyried ac addasu systemau a phrosesau’r adrannau i sicrhau bod MECC yn ennill ei blwyf
* Annog y staff i ystyried eu hiechyd a’u lles eu hunain ac i ddylanwadu ar iechyd a lles eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cydweithwyr drwy sgwrsio â nhw
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Iechyd y Cyhoedd Cwm Taf drwy ffonio 01685 351440 neu e-bostio Cwmtaf.PHT@wales.nhs.uk