Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau: Mam o Ynys Môn yn siarad am ei phrofiad o broblemau iechyd meddwl ôl-eni

Dydd Llun, 29 Ebrill 2019

Mae mam o Ynys Môn a dechreuodd ddioddef o byliau o banig yn dilyn genedigaeth drawmatig ei phlentyn cyntaf wedi siarad am ei phrofiad i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl a all effeithio ar famau newydd.
Maternal Mental Health Awareness Week 1I ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, mae Michelle Wyn Jones wedi ymuno â gweithwyr proffesiynol iechyd Gogledd Cymru i alw ar famau newydd a darpar famau i fod yn agored am eu hanawsterau.
 
Mae Michelle, sy’n fam i ddau, yn un o dros 450 o ferched sydd wedi cael budd o’r gefnogaeth arbenigol a ddarperir gan Wasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y 12 mis diwethaf.
 
Dechreuodd Michelle gael ôl fflachiadau a phyliau o banig yn gyntaf wedi genedigaeth drawmatig ei mab cyntaf Caleb ym mis Chwefror 2017, lle cafodd ei “churo’n gorfforol ac yn feddyliol”.
 
“Dechreuais gael ôl fflachiadau’n syth, yn enwedig yn ystod y nos lle’r oeddwn yn gweld yr enedigaeth dro ar ôl tro ac yn fanwl fel gwylio ffilm” eglurodd.
 
“Roedd popeth mor fyw - wynebau, lleisiau, offer, goleuo, amgylchiadau, a byddai’n sbarduno teimladau o banig ynof.
 
“Roeddwn yn cael trafferth siarad am yr enedigaeth, ac roeddwn yn osgoi sgyrsiau pobl eraill am eni plant, cuddiais fy llyfrau geni ac roedd hyd yn oed clywed cerddoriaeth o’r cyfnod pan roeddwn yn esgor yn mynd a fi’n ôl i’r cyfnod hwnnw.”
 
Ond ddeuddeg mis yn ddiweddarach roedd yn rhaid i Michelle wynebu ei hofnau ar ôl clywed y newyddion chwerwfelys ei bod yn feichiog gyda’i hail blentyn, Caron.
“Nid oeddwn yn gallu siarad amdano heb grio – ac rwy’n golygu llawer o grio,” dywedodd.
 
“Dechreuais grio’n afreolus yn fy apwyntiad cyntaf ac rwy’n teimlo mor ddiolchgar fod rhywun wedi fy nghymryd o ddifri.” 
 
Cyfeiriwyd Michelle at Wasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC a chynigwyd therapi arloesol o’r enw ‘Rewind’ iddi, sy’n helpu merched i ddod dros trawma genedigaeth.
“Roedd siarad am fy mhrofiad o roi genedigaeth gyda Emma o’r tîm iechyd meddwl amenedigol yn ystod y sesiwn gyntaf wir yn helpu. Roedd ei phrofiad bydwreigiaeth yn amhrisiadwy o ran fy helpu i ddechrau gwneud synnwyr o bethau.
 
“Dechreuais ddeall nad fy mai i oedd hyn a llwyddodd Emma i wneud i mi herio’r credoau annefnyddiol yr oeddwn wedi’u creu yn fy mhen. 
 
“Gallaf ddweud yn sicr bod Rewind wedi gweithio i mi - sut ydw i’n gwybod hynny? Roeddwn yn gallu nôl fy llyfrau geni a’u darllen eto! Nid yw’r caneuon oedd yn arfer sbarduno fy ôl fflachiadau, meddyliau a theimladau tywyll yn gwneud hynny mwyach.
“Ni allaf ddiolch digon i Emma a’r gwasanaeth Rewind am fy helpu i ymdopi â thrawma fy ngenedigaeth gyntaf, a oedd yna’n fy ngalluogi i gynllunio ac edrych ymlaen at enedigaeth fy ail blentyn.”
 
Ganwyd Caron Wyn Jones yn ddiogel drwy lawdriniaeth caesarean ym mis Tachwedd 2018, yn pwyso 9 pwys 9 owns.  
Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at 20% o ferched yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn ar ôl geni.
 
Maent yn cynnwys ystod o gyflyrau sydd wedi’u cysylltu’n benodol â beichiogrwydd neu eni plant, fel iselder amenedigol, pryder amenedigol, seicosis ôl-eni ac anwylder straen wedi trawma ôl-eni.
 
Yn ogystal â chael effaith anffafriol ar famau newydd, dengys bod y cyflyrau hyn yn peryglu iechyd corfforol ac emosiynol tymor hir y plentyn hefyd.
 
Dywed Donnalee Rogerson, Rheolwr Tîm Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol BIPBC ei fod hanfodol bod merched sy’n cael trafferth yn ystod beichiogrwydd neu yn y misoedd yn dilyn genedigaeth yn dweud wrth rywun, fel eu bod yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt.  
 
Dywedodd: “Mae’n bwysig bod mamau newydd a darpar famau yn gwybod ei fod yn eithaf cyffredin i brofi problemau iechyd meddwl a gall rhannu sut maent yn teimlo gyda’u hymwelydd iechyd, Meddyg Teulu neu weithiwr proffesiynol iechyd sydd yn rhan o’u gofal fod yn un o’r camau cyntaf at gael y gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. 
 
“Yn ddiweddar mae ein Gwasanaeth Iechyd Meddwl Amenedigol arbenigol wedi ehangu i’n galluogi ni i ymyrryd yn gynt, cefnogi mwy o ferched a chyflwyno mwy o ymyriadau therapiwtig a therapïau newydd ar sail tystiolaeth.
 
“Mae stori Michelle yn dangos, gyda’r gefnogaeth gywir mae modd i ferched ddod dros broblemau iechyd meddwl amenedigol a symud ymlaen i fyw bywydau hapus a llawn.”