Nid yw'n rhy hwyr i chi gael eich brechiad ffliw: Meddyg yn Ysbyty Gwynedd yn annog eraill i gael eu brechu rhag y firws all beryglu byw

Dydd Iau, 14 Mawrth 2019

Mae meddyg yn Uned Gofal Dwys Ysbyty Gwynedd sydd wedi gweld canlyniadau dinistriol y ffliw yn annog eraill sy'n gymwys i gael eu brechu.
Ed2Salwch resbiradol yw'r ffliw, sy'n effeithio'r ysgyfaint a'r llwybr anadlu ac mae'n cylchredeg yn ystod misoedd y gaeaf yn y DU pob blwyddyn (fel arfer mis Hydref i fis Ebrill).
 
Ers mis Hydref, mae cyfanswm o 376 unigolyn wedi'u derbyn i'n tri ysbyty ar draws Gogledd Cymru gyda ffliw.
 
Mae Dr Edward Farley-Hills, Anesthetydd Ymgynghorol wedi gweld nifer o gleifion yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda chymhlethdodau difrifol a achoswyd gan y ffliw yn ystod yr 18 mlynedd y mae wedi bod yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd.
 
Dywedodd: "Dros y blynyddoedd rwyf wedi gweld nifer o achosion o’r ffliw, mae'r rhain wedi cynnwys pobl ifanc difrifol wael.
 
"Mae llawer o bobl yn credu bod y ffliw yn un o'r mathau hynny o salwch a fydd yn gwella mewn ychydig ddyddiau, megis annwyd, ac yn y rhan fwyaf o achosion fe all wella, ond weithiau gall arwain at fethiant lluosog yr organau a hyd yn oed marwolaeth.
 
"Yn anffodus rwyf wedi gweld nifer o gleifion â methiant lluosog yr organau oherwydd y ffliw ac yn anffodus mae rhai wedi marw.
 
"Gallent ddod i'r ysbyty gyda nifer o symptomau, yn cynnwys dolur rhydd, gwres uchel neu deimlo'n sâl yn gyffredinol.
 
"Mae rhai'n dod i'r Uned Gofal Dwys sydd â diffyg resbiradol ac yn sâl iawn. 
 
"Yn aml rwyf wedi clywed teuluoedd yn gofyn sut allent fod mor sâl gyda'r ffliw? Yn anffodus, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o ba mor ddifrifol all y ffliw  fod weithiau."
 
Gall rhywun gael y ffliw ac mae'r firws ffliw yn cael ei basio’n hawdd o un unigolyn i un arall. Mae'r ffliw yn gallu lledaenu'n gyflym, yn enwedig mewn cymunedau caeedig megis cartrefi preswyl.
 
Mae brechiad yn cael ei ddatblygu ar gyfer pob tymor, ac yn cael ei gynnig am ddim i blant, pawb dros 65 mlwydd oed ac unigolion mewn grwpiau 'mewn perygl' penodol sy’n fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau o ganlyniad i'r ffliw.
 
"Rwy'n gwneud yn siŵr fy mod yn cael y brechiad pob blwyddyn, rwy'n meddwl ei fod yn bwysig iawn i bob gweithiwr gofal iechyd gael y brechiad yn ogystal â'r rhai sydd mewn perygl yn ein cymunedau.
 
"Wrth weithio yn yr Uned Gofal Dwys gallwch weld pa mor sâl all pobl fod o ganlyniad i'r ffliw - gall ddigwydd i unrhyw un, poblifanc a hŷn.
 
"Gall effeithiau'r ffliw beryglu bywyd, ac rwy'n meddwl bod staff yr Uned Gofal Dwys yn ymwybodol iawn o hyn a dyna pam bod nifer uchel o staff yn cael y brechiad ffliw ar y ward.
 
Ychwanegodd Dr Farley-Hills, "Fel gweithiwr iechyd, mae cael y brechiad yn ddyletswydd arnom fel y gallwn ddiogelu ein cleifion a'n gilydd."
 
Mae brechiadau am ddim dal ar gael, felly holwch yn eich meddygfa neu fferyllfa leol heddiw.
 
Os ydych yn perthyn i unrhyw un o’r grwpiau risg canlynol, mae gennych hawl i bigiad ffliw am ddim:
  • Yn 65 oed a hŷn
  • Yn byw mewn cartref preswyl neu gartref nyrsio
  • Yn ofalwr sy’n gofalu am rywun hŷn neu unigolyn anabl
  • Yn feichiog (ar unrhyw gyfnod o'r beichiogrwydd)
  • Yn 6 mis oed a hŷn ac yn dioddef o unrhyw gyflwr iechyd cronig megis asthma, problemau’r frest neu’r galon, clefyd yr arennau, diabetes, cyflwr niwrolegol a systemau imiwnedd wedi'u hatal. 
  • Plentyn 2 neu 3 mlwydd oed.
  • Plentyn Dosbarth Meithrin neu Blynyddoedd 1-6 yn yr ysgol.
  • Yn ordew iawn gyda mynegai mas y corff (BMI) o 40 neu fwy
  • Gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol mewn cartref gofal i oedolion (mae brechiad ar gael gan eich Fferyllfa leol).
  • Aelod o sefydliad gwirfoddol sy'n darparu gofal, cymorth cyntaf neu ymatebydd cyntaf cymuned.